yn dra hyddysg yn yr ysgrythyrau; a chyfoeth anmhrisiadwy i ddyn ieuanc yw fod llawer o Feibl yn ei feddwl. Ac yn lle pregethu i'r un bobl Sabboth ar ol Sabboth, fel y gwneir yn y dyddiau presenol, a hyny fe allai ddwywaith neu dair y dydd, yr ydym yn cwbl gredu y byddai yn llawer mwy adeiladol i gael un oedfa bob pythefnos, o leiaf, i holwyddori yn gwbl. Yr ydym yn meddwl fod y Parch. B. Evans, Drewen, yn arfer holwyddori bob Sabboth. Ac ni ddymunem well peth i ni ein hunain, na chael gweled ambell i ysgoegyn sydd yn barod i daeru fod y cynllun hwn yn rhy isel i'r oes bresenol, yn gorfod dal pen rheswm, fel y dywedir, ar ryw un o bynciau sylfaenol crefydd â rhai o'r hen bobl gafodd eu holwyddori felly ganddo pan yn blant. Os nad ydym yn camsynied yn fawr, y mae cyfnewidiadau cymdeithasol buan y dyddiau presenol, a'r cyffro dilynol i hyny, yn peri fod athrawiaethau crefydd yn cael llai o sylw pobl ieuainc yr oes hon na rhai yr oes o'r blaen; ac nid ydym yn gwybod am un peth i dynu eu sylw yn fwy at y gair ac at y dystiolaeth, na holwyddori doeth. Dywed Shadrach wrthym mai dechreu oedd yr Ysgol Sabbothol pan aeth efe i Dalybont gyntaf, ac nid oedd ond un proffeswr yn myned iddi; oblegyd hyny anrhydedder ei enw ar dudalenau cofiant ei weinidog—John Jones, o Lwyn Adda, oedd y gŵr. Ond cyn pen pedair blynedd ar ddeg, yr oedd saith o ysgolion yn perthyn i eglwys Talybont yn unig.
Nid rhyfedd gan y darllenydd yn ddiau fod llwyddiant yn dilyn llafur mor fawr. Llaw y diwyd sydd yn llwyddo mewn crefydd yn gystal ag yn mhethau y byd hwn. Nid am fod ei law ef ei hun yn ddigon i beri llwyddiant yn y naill yn fwy nag yn y llall; ond am fod bendith yr Arglwydd yn gyffredin yn dilyn diwydrwydd. Wedi llafurio yn galed, mewn amser ac allan o amser, fel y gwelsom, darfu i'r Arglwydd roddi seliau gweledig ar ei weinidogaeth yn y flwyddyn 1815. Yn y flwyddyn hono bu diwygiad mawr yn Nhalybont, a chafodd Shadrach yr hyfrydwch o dderbyn llawer i'r eglwys. Am gyhyd a haner blwyddyn, yr oedd y pregethwr yn gorfod rhoddi i fyny cyn gorphen yr oedfa, am fod y gynulleidfa yn tori allan i ddiolch a molianu; ac yr oedd y bryniau moelion yn diaspedain gan sain cân a moliant y gynulleidfa wrth fyned adref y