dawel a dirwgnach i gynal gweinidogaeth mewn lleoedd neillduol er hyny, pan fyddont feirw, caiff eu henwau yn gyffredin eu claddu mewn annghofrwydd, mor sicr ag y cleddir eu cyrff yn y pridd. Mae yn bosibl y gwneir rhyw sylw o lafur ac ymdrechion eu gwŷr; ond caiff eu llafur, a'u hunanymwadiad, a'u hymdrechion hwy, i ba rai y mae y gwŷr hyny yn ddyledus am haner eu defnyddioldeb, fod yn ddisylw ac yn ddigoffa. Yn y dydd y datguddia Duw ddirgeloedd dynion, y mae yn ddiau genym y bydd y Meistr mawr yn anerch llawer gwraig a annghofiwyd yn fuan, hyd yn nod gan y rhai a dderbyniasant ddaioni ysbrydol drwy ei llafur a'i hunanymwadiad, fel un wedi gwneud yr hyn a allodd—fel un a "weithiodd yn dda." Ond bu farw Mrs. Shadrach cyn i'r plant gael ond haner eu magu; a gellir casglu fod y golled yn fawr ar ei hol; ond gofalodd Rhagluniaeth am forwyn ofalus ac ymdrechgar i Shadrach. Sengai hon yn ol traed ei meistres mor bell ag y gallai, ac enillai wrth ei hedau a'i nodwydd ambell i swllt neu chwe' cheiniog i gynorthwyo ei meistr. Arosodd gydag ef am gymaint a deunaw mlynedd, nes oedd y plant i gyd wedi eu magu; a chan fod cysylltiad mor bwysig rhyngddi â theulu ac amgylchiadau ei meistr, cysyllter ei henw âg ef eto—Mrs. Ann Herbert, Talybont, ydoedd; ac y mae y darllenydd yn ddyledus iddi am nid ychydig o ffeithiau y cofiant hwn.[1]
Ond y mae un ffynonell eto heb ei nodi—Rhagluniaeth. Onid oedd yn gweithio gwaith yr hwn a'i danfonodd? ac ai tebyg y gwnai Duw ei ddanfon i gyflawni ei waith heb drefnu fod cynaliaeth iddo? Na, bu llaw Rhagluniaeth yn amlwg yn ei ddyddiau boreuol, fel y gwelsom; a'r un modd pan ydoedd tua chymydogaeth Llanrwst; ac nid tebyg y gwnai Rhagluniaeth ei adael yn y diwedd. Clywsom ei fod unwaith yn myned oddicartref i bregethu i ryw gyfarfod mawr neu gilydd; ond er crafu, nid oedd ganddo yr un ddimai yn ei logell i gyfarfod â'i dreuliau ef a'i geflyl; a'r hyn oedd yn llawer pwysicach na hyny, nid oedd yr un ddimai i'w gadael ar ol i'r wraig a'r teulu ymgynal arni nes y dychwelai. Pa beth oedd i'w wneud, nis gwyddai;
- ↑ Erbyn hyn y mae hithau wedi marw. Oblegyd hyn, byddai yn anhawdd gwneud llawer darn o'r cofiant hwn yr hyn ydyw, pe gohiriasid ei ysgrifenu ychydig yn hwy