ond penderfynodd fyned i ddarllen a gweddio, yn ol ei arfer, eyn gadael y teulu. Aethpwyd at y gorchwyl, a diau iddo gyflwyno ei deulu i ofal y Duw a allai ofalu am danynt. Erbyn codi oddiar eu gliniau, dyma lythyr yn dyfod iddo, yn cynwys digon o arian i gyfarfod â'i angenion ef a'r teulu, ac nis gwyddai yn y byd pwy oedd wedi ei ddanfon. Nid yw ein hawdurdodau yn cyd-ddyweyd gyda golwg ar ei gynwysiad; dywed un mai punt oedd ynddo, tra y dywed arall fod ynddo bump o honynt.
Wedi iddo ddyfod i Dalybont, bu raid iddo adeiladu tŷ i breswylio ynddo; ac er nad oedd ef ond yr hen dŷ pridd y cyfeiriasom ato eisoes, eto yr oedd hi yn gryn orchwyl iddo godi hwnw heb arian. Gyrodd yn mlaen arno yn egniol; ond er cyniled oedd, gwaghawyd yr exchequer';--mewn geiriau ereill, ddarllenydd, gosodwyd ef yn y cyffion gan bwrs gwâg. Beth oedd i'w wneud? A raid gadael y tŷ pridd ar ei haner? Pe felly, gallai cawod neu ddwy o wlaw olchi cryn lawer o hono i ffwrdd. Ond y mae Rhagluniaeth yn amserol, ddarllenydd;—nid oes mynyd yn cael ei golli ar ei hawrlais hi. Yn annisgwyliadwy, dyma lythyr yn dyfod i Shadrach oddiwrth ei hen gyfaill Mr. Jones, o Gaer-gŵr y ceffyl a'r cyfrwy, cofier—yn cynwys rhodd o ddeg punt iddo. Trwy hyny, gorphenwyd yr adeilad, yn mha un y bu yn byw gan mwyaf tra yn Nhalybont. Yn hyn, caiff y darllenydd gipolwg ar ffynonellau eynaliaeth Shadrach a'i deulu. Ac fel ffrwyth oddiar ei brofiad ei hun, arferai gynghori pregethwyr ieuainc i beidio byth gwrthod galwad i eglwys wan am ei bod hi yn wan.
Mae yn ddiau mai cynghor tra phriodol ydyw hwn; ac y mae yn iechyd i galon dyn glywed rhywun fyddo wedi gwneud yn ol y cynghor ei hun yn ei roddi i ereill. Ymddengys i ni fod peidio gwneud yn ol y cynghor hwn yn sarhad ar ein Meistr, gan ei fod yn cynwys anymddiried ynddo fel un yn gofalu am ei weision. Os bydd lle iddo weithio mewn eglwys wan, ac nid i guddio ei dalentau megys mewn napcyn, aed yno gan ymddiried yn Nuw. Mae yr Arglwydd wedi bod yn ffyddlon yn mhob oes i'r rhai a'i gwasanaethant. Mae yn bosibl na chânt lawnder, ond cânt ddigon. Mae yn dra thebyg na lenwir dim o'u byrddau "â phob rhyw beth;" er hyny bydd eu bara a'u dwfr yn sicr. Onid yw ffeithiau yn dangos hyn?