Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

Pwy welodd y cyfiawn—y gŵr sydd yn ffyddlawn i Dduw. "wedi ei adu?" Bu yn lled gyfyng ar Elias; ond daeth cigfrain âg ymwared iddo. A dywed Phillip Henry wrthym nad oedd ef yn gwybod am gynifer ag un engraifft o'r ddwy fil Annghydffurfwyr, yn ein gwlad ein hunain, wedi dyoddef gwir eisieu, heb son am farw o rewyn. Ac os bu amgylchiadau dyfodol neb erioed o weision Duw yn dywyll, bu amgylchiadau y rhai hyny felly. Trowyd hwynt o'u sefyllfaoedd yn hollol ddiddarpariaeth; er hyn, cawsant eu cynal. Ac yn ddiweddarach, yn ein dyddiau ein hunain, cafodd ffyddlondeb yr Arglwydd ei amlygu yn neillduol pan y trodd oddeutu pum' cant o weinidogion teilwng a da o'u cartrefi cysurus yn Scotland, yn hytrach na bod yn anffyddlon i'w Harglwydd, heb ddim ar y pryd ganddynt ond eu hymddiried ynddo Ef i gadw eu meddyliau rhag diffygio. Cyfododd goleuni i'r cyfiawnion hyny hefyd yn y tywyllwch. Mae yn ddiau na ddylai neb ond gweithwyr ddisgwyl gael eu cynal; ac y mae yn ddiau na ddylai neb ryfygu drwy ddisgwyl cael eu cynal, a hwythau yn esgeuluso gwneud y goreu o foddion ordeiniedig Duw at hynyma; ond o'r tu arall, tra fyddont yn gwneud y goreu o'r moddion ordeiniedig hyn, mae yn ddiau na ddylai neb o honynt fod yn ddiymddiried mewn Rhagluniaeth. Os ydyw rhyfyg yn dra phechadurus o un tu, y mae yn ddiau fod diffyg ffydd yn Nuw yn bechadurus o'r tu arall. Ond rhaid i ni ddychwelyd yn fwy uniongyrchol at Shadrach.

Dylai fod gan bregethwr lyfrgell yn gystal ag areithfa; ac er cyflawni ei ddyledswydd yn iawn yn yr olaf, rhaid iddo beidio bod yn esgeulus o'r flaenaf. Gyda golwg ar bynciau penodol yr areithfa, gallwn ddyweyd yn debyg i'r apostol Paul, fod yn rhaid i ddyn fyfyrio yn y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros, cyn y bydd ei gynydd fel pregethwr yn eglur i bawb. Rhaid taro craig y gwirionedd â gwialen myfyrdod, cyn y daw llawer o ddwfr o honi. Ac nid bob amser y mae llafur yr areithfa ac eiddo'r fyfyrgell yn cael eu cyfartalu yn briodol; ac y mae hyny, fel pobpeth arall, yn dwyn y ffrwythau sydd yn naturiol iddo. Onid yw llawer pregeth yn fasw o ran ei theimlad, ac yn henaidd o ran yr arogl sydd arni; tra mae pregeth arall yn gyforiog o ddrychfeddyliau hen, newydd, a phwysig, ond fod