Edwards o America, Bellamy, Baxter, Dr. Owen, Charnock, Dr. Watts, Erskine, Ambrose, a Strong. Darllenodd hefyd weithiau Howe, Stennett, Simeon, Boston, Preston, Jackson, Beveridge, Burroughs, Doolittle, Weemse, Keach, Taylor, Dr. Evans, Mason, Buck, a Wilson. Am yr holl rai hyn, dywed fod eu darllen wedi bod o lawer o leshad ac adeiladaeth iddo. Heblaw hyn, darllenodd weithiau Dr. Whitby, Tillotson, a Fuller, yn nghyd a gwaith Dr. Williams, Rotherham. Dywed am y rhai hyn, fod ynddynt oll lawer o bethau da; ond ychwanega yn awgrymiadol iawn, " Ond y mae gan bob dyn hawl i farnu drosto ei hun: diolch byth am hyny." Diolch byth am hyny, dywedwn ninau hefyd, ac yr ydym "drosom ein hunain" yn barnu fod yma ryw gymaint o annghymeradwyaeth yn yr "ond" arwyddocaol hon. Darllenodd lawer o lyfrau Cymraeg a Saesonaeg heblaw y rhai hyn; ac yn ei ddyddiau diweddaf darllenai lawer ar esboniad ei hen gydfilwr, Dr. Phillips, ar y Testament Newydd. Yn awr, y mae yn ddiau fod ei ymborth meddyliol wedi bod yn dra maethlon; ond diau hefyd y buasai yn llawer gwell pe bai yma fwy o amrywiaeth nag y sydd. Y mae llawer o bethau heblaw duwinyddiaeth yn angenrheidiol ar ddyn cyhoeddus. Ond hyd yn nod ag addef y coll hwn, er nad oes genym yr un' sicrwydd pa mor bell yr oedd yn euog o hono, eto ein barn ddiysgog yw, ei fod wedi darllen llawer iawn mwy na deg o bob dwsin o'r rhai sydd wedi bod yn siarad yn ddiystyrllyd am dano. Y mae yn syndod annghyffredin genym pa fodd y gallodd ddyfod i ben a darllen mor helaeth.
Nid oes nemawr o hynodrwydd yn perthyn i Dalybont fel pentref. Y peth mwyaf yno sydd yn tynu sylw dyeithriaid yn gyffredin, yw y ddau gapel hardd sydd tua chanol y lle, mor amlwg, ac mor agos at eu gilydd. Perthyna'r naill i'r Annibynwyr, a'r llall i'r Bedyddwyr. Y maent yn adeiladau golygus -llawer gwell na'r cyffredin; ac yn llawer o glod i'r sawl a'u codasant. Ond, rywfodd, blin yw eu bod mor agos at eu gilydd. Anffafriol iawn yw'r argraffiadau ar feddwl dyeithriaid wrth edrych arnynt. Y mae y ddwy fynwent yn ffinio â'u gilydd; ond fod mur isel yn eu rhanu; ac nid yw y ddau gapel ond ychydig droedfeddi o bellder. Gellid meddwl wrth edrych ar