bethau, fod llawer o wahaniaeth barn neu wrthwynebrwydd teimlad rhwng y cyfeillion sydd yn arfer addoli yn y ddau gapel hyn â'u gilydd, gan eu bod yn ymgadw mor benderfynol ar eu penau eu hunain, er mor agos ydynt o ran lle. Ond pell iawn oddiwrth y gwir ydyw hyn. Gallai dyeithriaid gael eu twyllo yn fawr pe barnent berthynas y cyfeillion hyn â'u gilydd oddiwrth ymddangosiad y claddfeydd a'r capeli. Y mae y rhai hyn, rhaid addef, yn ymddangos yn "sectarol" iawn, chwedl ein cyfeillion Eglwysig, ac o'r braidd yn fygythiol. A chymharu pethau mawr i bethau bach—parvis componere magna, ys dywed Virgil—y mae y capeli hyn yn debyg i ddau hwrdd direidus, pan fyddont yn edrych yn gilwgus ar eu gilydd, a'r naill ar fin taro y llall yn y man lle dylai fod ymenydd, Y mae y gymhariaeth yn ymddangos yn gartrefol, ni a addefwn, ond ni a. hyderwn y cawn faddeuant y darllenydd pan ddywedwn wrtho nas gallwn, ar y pryd, gael un arall mwy urddasol a chymwys i osod allan yr argraff y mae y ddau gapel hyn yn adael ar ein meddwl. Er hyny, y mae yn dda genym feddwl fod y cyfeillion mewn teimladau pur frawdol tuagat eu gilydd. Gwnai y naill, mor bell ag y gwyddom, un peth rhesymol i wasanaethu y llall. Ac eto, fel y gellid dysgwyl, y mae rhai ysgarmesoedd wedi bod rhyngddynt. Nid bob amser y cydunid i adael bedydd, yn ei ddeiliaid a'i ddull, yn bwnc agored. Rhyw balance of power crefyddol ydyw hwn, sydd wedi bod yn achos ymrafaelion dirif yn mhob oes a gwlad. A chan fod y pleidiau yma mor agos i'w gilydd, o'r braidd y gellid disgwyl iddynt hwythau ymgadw. rhag rhoddi aml i bergwd y naill i'r llall; yn enwedig os cofiwn y gwirionedd diamheuol mai dynion yw dynion yn mhob man. Pan oedd Shadrach yn gweinidogaethu yn Nhalybont, yr oedd gwron pur aiddgar dros drochi yn fugail ar eglwys y Bedyddwyr yno. Ac yn aml iawn, deuai rhai o'r bobl at Shadrach i ddweyd wrtho, "O Mr. Shadrach bach, yr oedd Hwn a Hwn yn ei rhoddi adref i chwi'r taenellwyr ddydd Sul." Am dro dywedai yntau, "Gadewch iddo fe." Ond gan fod adroddiadau cyffelyb yn dyfod i'w glustiau dro ar ol tro, penderfynodd o'r diwedd ymbarotoi i'r frwydr: ymosododd ar amddiffynfeydd ei wrthwynebydd mor egniol ag y medrai; a gallem feddwl iddo yntau hefyd ddyfod o'r frwydr hon yn debyg
Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/49
Gwirwyd y dudalen hon