i'r rhan fwyaf fu yn ei hymladd o'i flaen-wedi cael cyflawn fuddugoliaeth ar ei wrthwynebydd, yn ol ei farn ei hun. Fodd bynag, yr oedd Shadrach yn teimlo yn ddigon gwrol, fyth er ei ymosodiad cyntaf, i ddychwelyd i'r frwydr oddeutu unwaith yn y flwyddyn, tra fu ei gyfaill yn Nhalybont.
Ond er pob ymdrafodaeth, y mae golygiadau y ddwy blaid yn para yr un fath ag 'o'r blaen. Y mae y naill a'r llall o honynt yn teimlo yn berffaith sicr yn ei meddwl ei hun. Erbyn hyn, fodd bynag, y mae y naill blaid a'r llall, feddyliem, wedi gallu dysgu y wers anhawdd hono o "oddef eu gilydd mewn cariad" yn well na'r pryd hwnw. Gan fod y naill yn ewyllysio myned i'r afon, y mae iddi bob groesaw i fyned gan y llall, ond iddi ymgadw rhag myned yn rhy ddwfn i fod yn ddiogel. A chan fod y blaid arall yn tybied y gwna glan yr afon y tro yn llawn cystal, goddefir iddi hithau gymeryd ei llwybr ei hun. Yn fyr, y mae y ddwy blaid yn ymgytuno i'r naill a'r llall o honynt gymeryd gymaint o ddwfr ag a welo yn dda. Ac onid ydyw yn drueni meddwl na bai pleidiau crefyddol wedi dyfod i'r penderfyniad hwn yn gynt? i beth y mae yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, yn enwedig, yn byw ar ysgar o gwbl?
Gan 'fod eu trefniadau eglwysig yn gyffelyb, paham nas gallent fyw yn gysurus mewn undeb a chydfod? Ie, gofynwn eto, paham? Ai tebyg fod yr ychydig sydd yn eu gwahaniaethu yn ddigon hefyd i'w gwahanu? Yn ein byw nis gallwn weled ei fod yn ddigon. A'r unig reswm, debygem ni, eu bod ar ysgar, ydyw fod mwy o bwys yn cael ei osod ar y mintys a'r anis mewn crefydd nag ar bethau trymach y gyfraith.
Nid ydym yn cymeryd arnom i benderfynu pa le y mae y bai, ond gwyddom fod bai, ie, a phechod, yn rhywle. Mater dadl ar y goreu yw bedydd-mater yw ag y mae Eglwys Dduw er's canrifoedd lawer wedi bod yn rhanedig iawn yn ei barn am dano. Nid oes ond pobl o deimlad anffaeledig a ddywedant nad ydyw hwn, fel llawer ereill o bynciau crefydd, yn ddadleuadwy. Ond nid mater dadleuadwy yw goddef ein gilydd mewn cariad. Y mae hyn yn ddyledswydd amlwg ac addefedig. Ac nid ydym yn gweled y byddid yn gofyn gormod oddiwrth yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, yn neillduol, iddynt ddysgu goddef eu gilydd yn ddigonol i beidio gadael i bwnc mor ddadleuadwy ac ailraddol a