Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/51

Gwirwyd y dudalen hon

bedydd, yn ei ddeiliaid a'i ddull, eu cadw ar ysgar. Onid ydyw undeb teimlad a chydweithrediad yn fwy pwysig nag unoliaeth barn am beth ailraddol—pob peth nad yw cadwedigaeth enaid yn ymddibynu arno? Hyd yn nod pe teimlai rhywrai fod yn rhaid iddynt fod yn ffyddlon i'w golygiadau ar y pwnc hwn, paham, wedi'r cyfan, y byddai eisieu i'r undeb gael ei dori serch hyny? Onid ydyw aelodau o'r un enwad, yn awr, yn gwahaniaethu llawn cymaint oddiwrth eu gilydd ar bynciau ereill? Ac er eu bod hwy yn ffyddlon i'w golygiadau neillduol, y maent yn gallu cydfyw mewn tangnefedd yn ddigon hawdd. Y mae yn dda genym weled arwyddion fod y ddau enwad yn dynesu at eu gilydd yn Lloegr. Paham y rhaid iddynt fod yn wahanol yn Nghymru?

Ond y mae terfyn i bob peth yn y byd hwn; ac felly y bu terfyn ar hoedl a llafur Shadrach. Y mae haul ei fywyd eisoes wedi croesi ei eithafnod, ac y mae prydnawn ei fywyd wedi dechreu; ond fel yr oedd yr arwyddion o ddyfodiad y nos yn cynyddu, fel hyny, tebygem, y teimlai yntau fod rhaid iddo gyflawni gwaith yr Hwn a'i hanfonodd tra yr ydoedd hi yn ddydd. Y mae un ran o'i esgobaeth eang eto heb ei meddianu, ac nis gallai marw fod yn beth boddhaol ganddo tra fyddai hyny heb ei wneud. Awn rhagom, yn awr, i edrych arno yn sefydlu yr achos Annibynol Aberystwyth.

Y mae nodwedd trefol Aberystwyth yn rhy adnabyddus i'r darllenydd i alw am ddesgrifiad manwl o honi oddiar ein llaw. Digon yw dyweyd ei bod erbyn heddyw yn un o'r trefydd mwyaf dymunol o ran adeiladwaith a sefyllfa. Y mae yr ystrydoedd wedi eu cynllunio yn dda, ac yn cael eu cadw yn lân. Y mae ei hagosrwydd i'r mor, ac iachusrwydd ei hawyr, yn peri iddi fod yn gyrchfan dewisol gan ymwelwyr o bell ac o agos, yn neilduol felly y rhai ydynt o'r radd flaenaf. Ас wedi iddynt ddyfod, y mae godidogrwydd ac amrywiaeth y golygfeydd cylchynol iddi yn cadw eu meddyliau rhag diflasu. Y mae y trigolion yn foneddigaidd, heb fod yn goegfalch; ac yn gymdeithasol, heb fod yn ëofn a haerllug; ac o ran eu golygiadau gwleidyddol, y maent yn fwy rhyddfrydig na thrigolion nemawr i dref yn y dywysogaeth. Y mae yn ddiau genym fod eu rhyddfrydedd yn ddyledus am lawer o feithriniaeth a nodded i hen deulu