yw y rhai anhawddaf eu dyoddef. Ni ryfeddem na fyddai yn llawer gwell gan lawer hen was ffyddlon fu yn casglu at ein capeli, gael ffonodiad neu ffrewylliad go dda, yn hytrach na'r sarhad a'r dirmyg a daflwyd lawer gwaith i'w wyneb. Erbyn heddyw, y mae yn dda genym feddwl fod amgylchiadau crefydd yn Nghymru yn ei gwneud yn ddiangenrhaid i neb fyned lawer oddiamgylch i gasglu. Y mae eglwysi yn ei chael yn llawer hawddach peth i dalu am eu capeli eu hunain nag y meddyliasant. A chan fod yr angenrheidrwydd am y teithiau casglyddol yn darfod, darfydded yr arferiad hefyd, o leiaf mor bell ag sydd bosibl. Heblaw achlysuru croesau i feddyliau y casglwyr, y mae yr arferiad hon wedi bod yn dra gorthrymus ar ein heglwysi. Y mae wedi bod yn achlysur i ambell eglwys i aros yn ddiog a diwaith, tra yr oedd yr eglwysi bywiog a llafurus, nid yn unig yn casglu i gyfarfod â threuliau uniongyrchol ein capeli, ond hefyd y treuliau cysylltiedig â chasglu atynt heblaw.
Dywedwyd wrthym fod Shadrach wedi casglu yr holl arian angenrheidiol at adeiladu y capel, mewn symiau yn amrywio o ugain punt i ffyrling. Bu allan am lawer o'r flwyddyn 1822 yn casglu y symiau hyn. Fel y rhan fwyaf o gasglwyr y dyddiau hyny, darfu i Shadrach, wrth reswm, gyfeirio ei gamrau tua Llundain. Cychwynodd tuag yno Ion. 26ain, 1823, "A bum yno dros fis o amser ar dori fy nghalon," meddai, "yn methu casglu fawr o arian." Nid rhyfedd chwaith ei fod "ar dori ei galon," oblegyd ychwanega i ddyweyd wrthym, " fod y gair allan yn y brif ddinas fod yno ddeugain o weinidogion yr un amser ag ef." Ac er fod Llundain yn anferthol fawr, hyd yn nod y pryd hwnw, eto, diau genym fod yr holl weinidogion hyn yn debyg i wartheg Pharaoh, yn bwyta eu gilydd mewn ffordd. Ond, er nad yw Shadrach yn son dim am hyny ei hunan, eto, clywsom gan un a ddylai fod yn gwybod, gan ei bod yn bur gyfarwydd â'i amgylchiadau a'i helyntion, fod Rhagluniaeth wedi gwenu arno y tro hwn eto. Rai blynyddoedd cyn hyn, yr oedd boneddiges ieuanc wedi dyfod i Aberystwyth ar ymweliad. Fel yr oedd hon ryw ddiwrnod yn rhodio ar un o heolydd y dref, canfyddai Shadrach yr ochr arall iddi; ac yn hollol ddiseremoni, aeth ato, a gofynodd iddo, " Onid efe oedd gweinidog yr Annibynwyr yn y dref? " Dywedodd yntau," Ie,