Felly, o ychydig i ychydig, ffurfiwyd cydnabyddiaeth rhyngddynt; a galwodd y foneddiges ieuanc fwy nag unwaith yn ei dŷ. Yr oedd y foneddiges ieuanc hon yn nîth i un Mrs. Morley, o Hackney, Llundain, mam (fel y tybia yr ysgrifenydd) i Samuel Morley, Ysw. Yn mhen amser, dychwelodd i Lundain, a dywedodd wrth ei modryb am Shadrach yr hyn oedd agosaf at ei meddwl. Wrth ei chlywed yn siarad, mae yn ddiau genym i hono deimlo cryn ddyddordeb ynddo; oblegyd yn dra buan, ysgrifenodd lythyr cyfeillgar ato. A'r hyn sydd yn dra hynod, ffurfiwyd math o gyfeillgarwch rhyngddynt, a pharhausant i ymohebu am amser hir, er nad oeddynt wedi gweled eu gilydd erioed. Pan ddaeth trafferthion casglyddol Shadrach arno, bu yn hwy nag arferol cyn ysgrifenu at Mrs. Morley; a phan oedd ef yn Llundain, anfonwyd llythyr ganddi ato i Aberystwyth, yn ei ddwrdio yn arw am fod mor esgeulus o honi. Anfonwyd ef ar ei ol i Lundain. Wedi gweled y llythyr, penderfynodd fyned i alw ar Mrs. Morley, yr hyn hefyd a wnaeth. Mawr oedd ei llawenydd i'w weled; a gallwn gasglu mai mawr oedd ei boddhad ynddo, oblegyd ysgrifenodd iddo res o enwau ei chyfeillion, ei chyfeillesau, a'i chydnabyddion, fel y gallai alw gyda hwynt. Gorchymynodd hefyd i'r gwas roddi y carriage yn barod erbyn amser penodol; a dywedwyd wrthym fod y gwas, a'r cerbyd, a'r list, wedi bod at wasanaeth Shadrach fel casglwr. Yn ngwyneb hyn, nid rhyfedd genym iddo fod yn ddigon llwyddianus, ar waethaf ei holl gydymgeiswyr, i gasglu y swm anrhydeddus o gan' punt yn Llundain.
Yn nechreu y flwyddyn ganlynol, aeth ar ei daith gasglyddol i Yorkshire: " Ond methais gasglu fawr yno," yw yr unig gofnodiad a wneir ganddo. Clywsom, fodd bynag, gan awdurdod dda, hanesyn go hynod am dano ar y daith hon. Wrth deithio o hono yn y blaen, daeth ryw le neu gilydd at dŷ pur foneddigaidd yr olwg arno. Wedi y curo a'r cyfarch arferol, ceisiwyd ganddo ddyfod i mewn, a gosodwyd ef i eistedd yn ystafell y gwasanaethwyr. Yr oedd merch y tŷ yn digwydd bod yno ar y pryd; ac wedi iddi ddeall ei fod yn dyfod o Gymru, gofynodd iddo, a allai efe ddim canu tôn Gymreig iddi? Dywedodd yntau y gallai, a dechreuodd osod ei hun mewn trefn i wneud, er nad oedd ond ychydig o ganwr. Yr oedd ganddo