Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/70

Gwirwyd y dudalen hon

argraffwyd y llyfr hwn gyntaf, gan James a Williams. 1812. Ni ddywedir pa bryd y cyhoeddwyd ef yn Nghaerfyrddin; ni welsom ond y ddau argraffiad hyn o hono. Y nesaf ydyw,—

"Udgorn y Jubili, yn cyhoeddi rhyddid i'r Hottentotiaid; neu Hymnau newyddion, ar amryw destynau, ac yn neillduol ar lwyddiant yr efengyl. Esaiah. xxiv. 16. Caerfyrddin: argraffwyd gan John Evans, yn Heol-y-Farchnad isaf. 1818." Hysbysir ni ganddo na fu un o hymnau y llyfr hwn yn argraffedig o'r blaen. Gallem feddwl mai at y llyfr hwn y cyfeiriai Shadrach ar ddiwedd "Trysorau y Groes;" ond nid yw ei gynlluniad yn hollol gyfateb i'r hyn a ddywedwyd yno y byddai. Y mae yr hymnau ar destynau ysgrythyrol mae yn wir; ond nid yw "y ddwy neu dair llinell o sylwadau" yn eu blaenori, fel yr addawyd. Yr ydym yn credu fod yr hymnau a ddilynant y gwahanol bennodau yn ei lyfrau ereill, yn rhagori ar y rhai a gynwysir yn y llyfr hwn. Hawddach yw gwneud hymn dda pan fyddo myfyrdod blaenorol ar bwnc wedi rhoddi cynhyrfiad i ddyn, na phan fyddo yn eistedd, fe allai mewn gwaed oer, i gyfansoddi hymn yn unswydd. Tra fyddom yn myfyrio yr enynir tân; a rhaid fod tân ynom cyn y bydd tân yn y pennill gyfansoddir. Nid bob amser y mae ffigyrau Shadrach yn yr hymnau hyn yn hapus; ac yn anffodus, y mae yn dwyn enwau personau a lleoedd mor aml i'w hymnau, nes gwneud llawer o honynt yn anghyfaddas i'w defnyddio. Beth feddyliai y darlenydd am glywed y pennillion hyn, er enghraifft, yn cael eu rhoi allan a'u canu mewn cyfarfod cyhoeddus?

CAN ISRAEL YN CYCHWYN GYDA'R GOLOFN.

Ffarwel i fynydd Saphir, ffarwel i Harada,
Ffarwel i dir Maceloth, ffarwel i Tahath dda;
Ffarwel i tithau Taara, ffarwel i Mithca sych,
Ffarwel i dir Hasmona, lle bum yn wael fy nrych.

Ffarwel i dir Maseroth, mi af tua'r hyfryd wlad,
Ffarwel i Benejaacan, ffarwel Horhagidgad;
Ffarwel i dir Jotbatha, ffarwel Ebrona lân,
Farwel i Esion-gaber, mi deithiaf yn y bla'n.