cariad, i feithrin rhagfarn, ac i fagu ymrysoniadau, yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol; ond eto yr ydwyf yn barod i roi rheswm am y gobaith sydd ynof; ac yn y tudalenau canlynol, yr ydwyf yn dywedyd meddwl fy nghalon am ddyben cyfryngdod a marwolaeth Iesu Grist; ac 'na ato Duw i mi ymffrostio ond yn nghroes ein Harglwydd Iesu Grist.' "Gwaed Iesu Grist ei Fab Ef sydd yn glanhau oddiwrth bob pechod,' &c." Ond, fel y mae yn amlwg erbyn hyn, yr oedd Dr. Edward Williams, a'i esbonwyr Cymreig, yn rhy gryfion iddo. Rhaid i ni addef, fodd bynag, fod y llyfr hwn wedi ein harwain i goleddu syniadau llawer iawn uwch am Shadrach fel meddyliwr, nag a feddem o'r blaen. A chynghorem y bobl hyny sydd wedi bod yn siarad yn isel am yr awdwr, i geisio ysgrifenu llyfr llawer gwell na hwn ar ei ochr ef i'r pwnc. Cof gan y darllenydd, feallai, fod Shadrach, mewn cyfeiriad ato ei hun yn darllen gwaith Dr. Whitby, Tillotson, a Fuller, "a gwaith Dr. Williams, o Rotherham," yn "diolch byth" am fod gan bob dyn hawl i farnu drosto ei hun. Rhydd "Rhosyn Saron " gwbl esboniad ar y "diolch" hwn;—cyfodai oddiar wahaniaeth golygiadau. Galwai rhai o'r bobl mwyaf Arminaidd y llyfr hwn yn "Ysgellyn Saron." Ai tybed fod hyn yn profi eu bod yn teimlo oddiwrth ei bigiadau? Os felly, y mae y llysenw roddir ar y llyfr yn fwy o ganmoliaeth iddo na pheidio! Prawf hyn fod ynddo rywbeth. Y nesaf ydyw,
"Cerbyd Aur; neu daith y myfyrdod o'r Arfaeth i Eden, o Eden i Sinai, ac o Sinai i Bethlehem Judea, lle ganed sylwedd yr holl gysgodau, sef Crist yr Arglwydd; lle y gwneir sylwadau myfyrdodol ar ugeiniau o ysgrythyrau, a hymnau yn canlyn y pennodau. Salm xxxix. 12: lxxvii. 12. Caerfyrddin. 1820." Cyhoeddwyd tri argraffiad o'r llyfr hwn; y diweddaf, yr hwn sydd o'n blaen, ydyw un Caerfyrddin, 1857; argraffwyd ac ar werth gan M. Jones, Heol-y-prior. A ydyw y darllenydd yn dechreu blino wrth ein dylyn? Os felly, wele gerbyd aur at ein gwasanaeth 1-Rhoed ei law i ni, a dringed "i'r cerbyd yma." Er ei fod yn gerbyd aur, eto na wangaloned am dro; feallai mai dyma y tro diweddaf y gwahoddir ef i gerbyd fel hwn; ac y mae ganddo eto gryn lawer o ffordd i'w theithio. Yn ei ragymadrodd, dywed yr awdwr wrth ei "anwyl gyfeillion