X. 16; xi. 24. Caerfyrddin: argraffwyd gan W. Evans, Swyddfa Seren Gomer." Ysgrifenwyd rhagymadrodd y llyfr hwn yn Aberystwyth, Awst, 1832; ond ni ddywedir pa bryd y cyhoeddwyd ef. Y mae yr awdwr yn y gyfrol hon eto yn anerch ei "anwyl gyfeillion a'i gydwladwyr," ac yn dywedyd wrthynt, "Yr ydwyf yn eich anerch â'r gyfran hon o'm myfyrdodau ar yr ordinhad santaidd o Swper yr Arglwydd, gan obeithio y bydd i'r. Jehofa ei bendithio i ddwyn llawer o'r newydd i roddi ufydd-dod i orchymyn Crist, trwy ymostwng i gadw coffadwriaeth barchus, o'i gariad mawr, a'i ddarostyngiad annghymarol, a'i ddyoddefiadau chwerwon, a'i farwolaeth boenus ar Galfaria yn lle bechaduriaid; ac hefyd i ddwyn y rhai sydd yn ymarfer â chymuno i ystyried pwys y gwaith, yn nghyd a'r angenrheidrwydd o ddifrifol hunanymholiad cyn iddynt agosau at fwrdd yr Arglwydd; ac i ystyried yr angenrheidrwydd o ffydd fywiol yn yr Arglwydd Iesu, â chariad gwresog ato, ac edifeirwch duwiol am eu holl bechodau, yn nghyd a'r rhwymau sydd arnoch i rodio yn addas i efengyl Crist yn mhob man ac yn mhob amgylchiad," &c. Y mae y llyfr hwn eto yn meddu ar fwy o gyfanrwydd na'i lyfrau yn gyffredin; ac y mae, oblegyd hyny, yn well. Gwneir ef i fyny o bregethau cyflawn, y rhai a ymganolant i gyd yn Swper yr Arglwydd. Y mae yn 155 o dudalenau. Ni welsom ond un argraffiad o hwn, nac o'r un blaenorol iddo. Yr ydym yn ystyried y llyfr hwn yn bur dda a defnyddiol; a gobeithiwn. na adawa ein cyhoeddwyr iddo farw. Y nesaf ydyw,—
"Myrr Dyferol; neu sylwadau ar amryw destynau ysgrythyrol, a ddangosant fod yr iachawdwriaeth fawr dragywyddol yn ddiamodol, i gyd o ras penarglwyddiaethol y Drindod Anfeidrol, ac anogaethau neillduol i ddyledswyddau Cristionogol; mewn dau ar ugain o fyfyrdodau difrifol. Yn nghyd a Hymnau yn canlyn y myfyrdodau, i gynorthwyo Sion i hwylio ei thanau: wrth deithio adref i'r nefol drigfanau, lle. na bydd neb yn galaru, nac yn wylo byth. Salm cxix. 27. Caerfyrddin: argraffwyd gan W. Evans, Swyddfa Seren Gomer, 1833." Ni welsom ond yr argraffiad hwn o hono. Y mae hwn yn 136 o dudalenau; ac yn groes i'r hysbysiad ar ddiwedd Dyfroedd Siloam, y mae. ei bris yn 1s. 6ch. Gallai y darllenydd feddwl oddiwrth deitl