Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/79

Gwirwyd y dudalen hon

yma yn gyfystyr a'r frawddeg fod yr iachawdwriaeth "i gyd o ras penarglwyddiaethol y Drindod Anfeidrol." Ac yn ei ragymadrodd, y mae yr awdwr yn egluro ei feddwl yn well. Wedi cyfarch ei "anwyl gyfeillion a'i gyd-deithwyr tua'r byd mawr tragywyddol," dywed wrthynt fod y traethawd hwn "yn dangos fod yr iachawdwriaeth i gyd o ras penarglwyddiaethol y Jehofa, heb ddim teilyngdod yn y dyn." Oni bai mai dyma oedd meddwl yr awdwr wrth y gair "diamodol," byddai teitl y llyfr hwn yn wrthddywediadol; gan y dywedir ei fod yn cynwys anogaethau neillduol i ddyledswyddau Cristionogol." Addefwn fod Shadrach yn uchel-Galfinaidd, ond ni charem i neb feddwl, oddiwrth deitl y llyfr hwn, ei fod yn uwch nag oedd mewn gwirionedd. Diau fod y darllenydd wedi sylwi pa mor barod yw pleidiau gwrthwynebol i gymeryd mantais annheg ar eu gilydd. Gan fod un dosbarth yn dyweyd fod etholedigaeth yn ddiamodol, chwythir yr udgorn yn union, a chyhoeddir ar g'oedd gwlad eu bod yn dyweyd fod iachawdwriaeth (=cadwedigaeth) yn ddiamodol: fel pe bai etholedigaeth ac iachawdwriaeth yr un peth! Oblegyd y duedd anffodus hon, barnasom ei bod yn ddyledswydd arnom roddi ystyr Shadrach ei hun i'r gair "diamodol" yn y cysylltiad uchod. Y mae y llyfr hwn eto yn gynwysedig o ddwy ar ugain o bregethau cyflawn, a dilynir hwy gan bennillion gwell na'r cyffredin o'i eiddo. Erbyn hyn, fe wel y darllenydd fod y tri llyfr diweddaf hyn wedi dyfod allan mor aml a rheolaidd a'r rhai cyntaf gyhoeddid ganddo. Y mae dau reswm dros hyny. Erbyn hyn yr oedd Shadrach wedi dyfod o'i deithiau casglyddol; ac o Ionawr, 1830, hyd ddiwedd 1834, bu ei fab, y Parch. E. L. Shadrach, yn awr o Pembroke Dock, yn cydweinidogaethu âg ef. Y mae hyny, efallai, yn cyfrif dros y ffaith fod ei bregethau, neu, fel y geilw efe hwynt, ei "fyfyrdodau," yn cael eu hysgrifenu yn gyflawnach nag arferol. Y nesaf ydyw,—

"Meditations on Jewels and precious stones, suggested by walking on the Sea Shore at Aberystwyth. Zech. iii. 9. Aberystwyth: printed for the Author by J. Cox, 1833." Gallem feddwl mai ychydig feddyliodd y darllenydd gael cyfarfod â Shadrach ar faes llenyddiaeth Seisonig. Er hyny, yno y mae yn ein harwain yn awr: a rhydd hyny brawf arall i ni nad oes diwedd ar