Fel yr awgrymasom yn y bennod gyntaf ar Fywyd a Gweithiau ein hawdwr, yr ydym yn ddyledus i'r byr hanes a roddir ar ddiwedd y llyfr hwn am lawer o ffeithiau hanesyddol ei fywyd. Gresyn fod bywyd mor ddefnyddiol a llafurus wedi ei adael mor ddigoffadwriaeth cyhyd.
Yr ydym, erbyn hyn, wedi rhoddi bras-gyfrif o gynifer ag ugain llyfr wedi eu cyhoeddi ganddo; ond os gwna y darllenydd edrych eto ar hysbysiad amlen "Dyfroedd Siloam," caiff weled fod yno rai yn cael eu haddaw, nad oes genym yr un cyfrif am danynt; sef, Darn o Bomgranad, Modrwyau Aur, Boglynau o Arian, Maes Boaz, Gwisgoedd y Cysegr, a'r Mor Tawdd. Yr oedd y rhai hyn oll "agos a bod yn barod" yn y flwyddyn 1827; ond methasom yn deg a chael golwg ar gymaint ag un o honynt. Clywsom, fodd bynag, gyda sicrwydd, fod y Mor Tawdd a Maes Boaz, wedi eu cyhoeddi; a hysbyswyd ni gyda chryn hyder, fod y Boglynau o Arian wedi eu cyhoeddi hefyd. Ni wyddom ddim am y lleill. Heblaw y rhai hyn eto, gwelsom hysbysiad yn Seren Gomer, am ryw flwyddyn, y byddai llyfr hymnau bychan, dan yr enw Mer Awen, i wneud ei ymddangosiad; ond nid oes genym ddim i ddyweyd am hwn ychwaith. Fel hyn, ynte, y mae genym sicrwydd fod Azariah Shadrach wedi cyhoeddi cynifer a thri ar ugain o lyfrau o wahanol faintioli, a thybiaeth ei fod wedi cyhoeddi rhagor. Yn ddiau, yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth.
Ei ddawn broffwydol
Ond y mae genym olwg arall eto i'w chymeryd ar Shadrach. Mae genym brofion fod y ddawn broffwydol yn syrthio arno weithiau; gosodwn y profion gawsom o flaen y darllenydd, a chaiff ef gyfrif drostynt fel y byddo yn gweled oreu. Y mae yn ddiau fod y darllenydd wedi clywed yn aml, fod llawer o'r hen bobl yn cael eu hystyried yn broffwydi; felly y cyfrifid y Parch. Edmund Jones, o Bontypool; a'r Parch. Lewis Morris, hen weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, heb son am ereill. A chan nad sut i gyfrif am y peth, ymddengys eu bod yn bur gywir, fwy nag unwaith, yn eu rhagddywediadau. Caiff y darllenydd ddyweyd, os myn, mai synwyr cyffredin cryf oedd yn eu galluogi i weled rhediad, neu dueddiad pethau; neu, caiff ddyweyd, os myn, fod duwioldeb mawr yn dwyn teimladau a dymuniadau dyn i gyd-gordio, neu gydredeg â gweithredoedd