Fe dueddir boneddigion,
Rhai o'r Cymry, rhai o'r Saeson,
I fyn'd ati a'u holl egni,
I brydferthu afon Dyfi.
Fe fydd Dyfi yn rhagori
Yn mhell âr holl borthladdoedd Cymru;
Bydd ei masnach yn rhyfeddod,
Yn yr oesoedd sydd yn dyfod.
Fe wneir camlas o lan Dyfi,
Neu ffordd haiarn i'r Drefnewy';
Ac fe gludir o'r mynyddau,
Lawr i Dyfi fawr drysorau.
Fe wneir camlas o lan Dyfi,
Cyn bo hir i Ddinasmawddy;
Ac fe gloddir y mynyddau,
Nes cael gafael mewn trysorau.
Fe geir miloedd o dunelli
Yn mynyddoedd Dinasmawddy,
O drysorau mawr, ardderchog;
'Nawr bydd Dyfi yn dra enwog.
Bellach, Gymry, 'rwyn terfynu
Hyn o broffwydoliaeth i chwi;
Fe'i cyflawnir oll am Dyfi,
Yn mhen oesoedd 'nol fy nghladdu.
Ond cewch weled rhyw arwyddion,
Cyn bo hir 'r hyd glan yr afon,
Mai gwirionedd wyf yn draethu,
Am enwogrwydd afon Dyfi.
|
Bellach, beth feddylia'r darllenydd am y broffwydoliseth hon? Na ddechreued feirniadu ar y cyfansoddiad o ran iaith a threfn; ond gadawed i ni ystyried y rhagfynegiadau mewn cysylltiad â ffeithiau y dyddiau presenol. Dywedir ganddo yn y pumed pennill, y caiff yr afon hon ei chulhau "a hardd gloddiau o'r cadarna'." Erbyn hyn, y mae cwmni wedi cael ei ffurfio, ac act seneddol wedi ei phasio, dan yr enw Dovey Land Reclamation Act, er awdurdodi y cwmni hwnw i gyflawni y rhagfynegiad