Tudalen:Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach.djvu/90

Gwirwyd y dudalen hon

gyferbyn ag Aberdyfi, ac ar lan yr afon a'r mor, Ar lawn llanw, y mae lled yr afon yn y man hwn, ddywedir, oddeutu dwy filldir; ac yr oedd meddwl am "bont ha'rn" yma o gwbl yn dra beiddgar; ond erbyn hyn, ddarllenydd, y mae y "bont ha'rn " wedi ei dechreu gan y Welsh Coast Railway Company, —a gobeithiant y gallant ei gorphen rywbryd! Bwriedir iddi gynwys dwy fynedfa—-un uwchlaw y llall: yr isaf i wyr traed, marchogion, a cherbydwyr cyffredin, a'r un oddiarni i'r trains. Ac er na fwriedir i'r bont hon fod yn ddigon uchel i'r "llong fwyaf" fyned yn ddyogel odditani, (er y bydd yn rhaid iddi fod yn uchel iawn,) eto, gan y bydd rhan o honi yn fath o draw-bridge, bydd amcan y broffwydoliaeth gyda golwg ar y "llong fwyaf" yn cael ei gyrhaedd. Heblaw hyn eto, y mae Mr. Savin, contractor y railway hon, erbyn hyn wedi prynu cyffiniau'r Foelynys, am saith mil o bunoedd; a chan y bydd yno railway junction bwysig, heblaw ymdrochle hyfryd, teimlir yn lled sicr y bydd yno" dref hardd" yn fuan. Fel hyn y mae yr ail ar ugain, y trydydd ar ugain, a'r pedwerydd ar ugain, wedi eu cyflawni yn mron yn llythyrenol. Y mae y chweched ar ugain eto yn deilwng o sylw. Dywedir yma y bydd "camlas," neu " ffordd haiarn," o lan Dyfi i'r Drefnewydd. Erbyn hyn, y mae ffordd haiarn wedi ei hagor o'r Drefnewydd i Fachynlleth; ac y mae prysurdeb mawr yn cael ei ddangos i'w hestyn o Fachynlleth i'r Borth, ar lan y mor. Y mae y pennill hwn, ynte, wedi ei gyflawni yn llythyrenol. Am y camlas, &c., i Ddinasmawddy, nid oes genym ddim i'w ddyweyd: tebyg fod y dernyn hwn i gael ei gyflawni "yn mhen oesoedd 'nol fy nghladdu!" Gallwn ddyweyd, fodd bynag, fod genym, nid "arwyddion," ond profion cryf yn ffeithiau y dyddiau presenol, fod Shadrach, hyd yn hyn, wedi bod yn lled hapus fel rhagfynegydd. Ni a obeithiwn na chyll ei gymeriad yn y dyfodol.

Buom yn bur bryderus, ddarllenydd hynaws, pa un a roddem y broffwydoliaeth hon i'w hargraffu ai peidio. Yr oedd arnom ofn y byddai rhai yn tybied nad oedd yn ddigon "clasurol " a dyfnddysg. Erbyn hyn, fodd bynag, penderfynasom wneud; yn un peth, fel y gallo'r darllenydd beirniadol gael tipyn o psychological exercise, i gyfrif pa fodd y gallodd Shadrach, saith mlynedd ar ugain yn ol, ragfynegu cynifer o ffeithiau y dyddiau presenol mor gywir.