"Hoff fydd gan olafiaid wybod ffurf a llun ein harwr hyf,
Bychan ydoedd o gorffolaeth, eto lluniaidd, llym, a chryf;
Talcen uchel, llygad treiddgar, trwyn eryraidd, gwefus laes,
A grymusawl lais, gyrhaeddai'r crwydryn pellaf ar y maes."
Y mae'r darlun yn gelfydd, onid yw, ddarllenydd? Ydyw, a mwy na hyny, y mae yn gywir. Gall ei hen gyfoedion sydd eto yn weddill, a'i gydnabyddion lawer, ei adnabod ynddo rhag blaen. Nid oes eisieu i'r rhai hyn gael enw Shadrach odditano; er ei adnabod, fel y dywedir fod yr enw dyn, ceffyl, aderyn, &c., dan ddarluniau gan rai painters, fel na byddai neb mewn amryfusedd yn cymeryd y naill ddarlun yn lle y llall. Dangosir ef yn y darlun hwn fel un bychan o gorffolaeth; ond gan ei fod yn iach ac yn gryf, nid ydym yn sicr nad oedd y bychander hwn yn fantais iddo, pan feddyliom am lafur ac eangder maes ei weinidogaeth. Anhawdd fyddai i ddyn mawr a thrwm ateb i holl alwadau maes fel Talybont, ar ei draed ei hun, fel y gwnai Shadrach. Ond y mae pob mantais yn y byd hwn yn flinio âg anfantais; a chlywsom fod bychander ei dŷ oddiallan wedi bod yn gryn brofedigaeth iddo unwaith. Dywedir ei fod ef, a chyfaill iddo, sydd eto yn fyw, ar daith bregethwrol yn y Gogledd. Ar nos Sadwrn, daethant i ardal wledig yn Meirion, lle yr oeddynt i bregethu y bore dilynol. Dranoeth, codasant yn foreu, ac aethant i edrych ar drefniadau mewnol yr addoldy. Gan fod y ddau yn fychain o gorffolaeth, a'r pulpud yn ymddangos yn lled ddwfn, aethant i fyny er mesur eu hunain wrtho; ac er eu trallod, cawsant allan mai prin iawn y gallent, yn enwedig Shadrach, weled nemawr o'r gwrandawyr dros ei ymylon. Gwybydded y darllenydd ieuanc fod yr hen areithfaoedd yn llawer tebycach i ffauau anifeiliaid gwylltion, nag i safleoedd cenadon hedd. Melldith ar goffadwriaeth y pethau lledchwith! lladdasant lawer o bregethau da; ie, ac o bregethwyr da, erioed. Ond tuedd eithafion yw cynyrchu rhai cyferbyniol iddynt eu hunain; ac erbyn hyn, y mae pobl yn rhedeg i'r eithafion cyferbyniol i'r hen bulpudau—y stage. Os oedd yr hen bulpudau yn cuddio görmod ar y pregethwr, y mae y stage yn rhoddi mantais ragorol iddo ddangos ei hun o leiaf, gan nad beth arall a ddangosir ganddo. Yn mhell y byddo y stages eto! Hawyr, ai tybed nad oes man canol rhwng y cage a'r stage?