gwan, a masw, ac o gymeriad gwael, ond gweinidog o'r un nodwedd. Y mae o bwys annhraethol i'n heglwysi fod cymeriad y weinidogaeth, gyda golwg ar feddwl a moesau, uwchlaw amheuaeth. Du iawn fyddai'r diwrnod, pe bai raid i gorff ein haelodau edrych lawr ar eu hathrawon; ac ofnadwy yw sefyllfa yr eglwys hono sydd a'i gweinidog yn byw ar oddefiad, am ei fod yn rhy wan fel dysgawdwr a blaenorydd, i hawlio edmygedd a pharch. Y mae difiandod neu ffrwydriad yn sicr o gymeryd lle yn yr eglwys hono; ac, o'r ddau, gallai fod ffrwydriad yn well. Gwaith anhawdd yw cyfanu ar ol ffrwydriad; ond gwaith anhawddach, feddyliem, na hyny yw rhoi bywyd i'r hyn fyddo wedi marweiddio. Unwaith eto y dywedwn ynte, na foed i'n heglwysi gymhell neb i'r weinidogaeth, os nad yw eu nodweddion, o ran meddwl a bywyd, o leiaf, yn rhoddi boddlonrwydd iddynt. A ydyw eglwysi yn gofyn, pa le y gallwn gael digon o rai teilwng? Mae'r ateb yn barod–Ewch at yr Arglwydd i ymofyn am danynt yn gyntaf: wedi hyny edrychwch yn fanwl am danynt yn mysg eich pobl ieuainc; a phan weloch arwyddion boddhaol fod rhai wedi eu cymhwyso gan Dduw, byddwch yn gydweithwyr â Duw er eu codi i'r man lle dylent fod.
Nodweddid Shadrach gan dduwioldeb diamheuol. Y mae pawb yn unfarn gyda golwg ar hyn. Er clustfeinio o honom lawer, ni chlywsom sibrwd o amheuaeth ar y pwnc hwn; ac nid ydym yn meddwl y gall dim ond duwioldeb amlwg a diamheuol gynyrchu unoliaeth mor berffaith, lle mae'r barnwyr mor lluosog ac amrywiol. Ac os gwna y darllenydd alw i gof y llafur diflino, a'r helyntion blin y darfu i ni eisoes gyfeirio atynt, y mae yn ddiau genym y bydd ei farn yntau yn sefydlog a ffafriol ar y pen hwn. Diau fod cymaint o lafur, mewn amgylchiadau mor anffafriol, yn profi bodolaeth cariad at Grist fel egwyddor gymhellol; a diau mai yn hyn yr oedd cuddiad ei gryfder. Er nas gall duwioldeb diamheuol wneud y tro i weinidog yn lle cymhwysderau ereill, eto y mae duwioldeb felly rywfodd yn angerddoli pob peth arall. Aiff dwy dalent y dyn diamheuol dda yn mhellach na deg talent dyn arall. Y mae dau reswm dros hyny:-Dylanwad duwioldeb o'r fath ar y dyn ei hun ydyw un rheswm; a'i ddylanwad ar bobl ereill fyddo yn credu yn ei bodolaeth yw y llall. Iechyd enaid yw duwioldeb; a diau y gall yr enaid, fel y corff, weithio llawer iawn mwy, ac