trwy y Deheudir, i dderbyn y cyfryw arwyddnodau. Cymerodd y gorchwyl hwn gryn lawer o amser Mr. Richard i fynu yn niwedd y flwyddyn hon a dechreu yr un ganlynol.
Y mae yn angenrheidiol i ni nodi yma, y bydd genym o hyn allan fantais neillduol i bortreiadu hanes a chymeriad Mr. Richard o flaen ein darllenwyr, trwy osod ger eu bron bigion helaeth o'i lythyrau at ei blant, pan oddi cartref, yn enwedig ysgrifenwyr y cofiant hwn, y rhai a symudasant tua diwedd y flwyddyn 1826 i breswylio yn Nghaerfyrddin, lle yr arosasant am ysbaid tair blynedd.
Priodol yw sylwi mae yn Saesoneg yr arferai ysgrifenu atom, ac o ganlyniad mae cyfieithad yw yr hyn a roddir yma.
"FY MECHGYN ANWYL,
"Gyda hyfrydwch yr wyf yn cymeryd fy ysgrifell yn fy llaw, i hysbysu i chwi am ein hamgylchiadau ni yma.
Y mae eich mam a minau, yn nghyd a'ch chwiorydd, mewn iechyd da, a gobeithio eich bod chwithau yn parhau i fwynhau yr un fendith. . . . . Yr wyf yn gweddio ddydd a nos am i'r Arglwydd weled bod yn dda ddysgu i chwi, mae duwioldeb gyda boddlonrwydd sydd elw mawr.' Mae meddwl anfoddlon yn felldith fawr, oblegid os bydd dyn felly, pe b'ai yn cyfnewid ei sefyllfa bob awr o'r dydd, ni fydd byth yn esmwyth, oblegid y mae'r anesmwythdra, nid yn y sefyllfa, ond yn ei feddwl ei hun. Hyn a wnaeth yr angylion yn anesmwyth yn y nefoedd, Adda yn mhar-