Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/111

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bach i yn debyg i hwn; a phan fyddwyf yn gweled rhyw ddyn ieuanc duwiol, yna yr wyf yn llefain, Gwnaed Duw fy mechgyn anwyl i fel hyn. O bydded i chwi fod yn wrthddrychau tra-anrhydeddus cariad Duw, yn ddeiliaid dedwydd ei ras, yn breswylwyr ei dŷ uchod, ac yn etifeddion o'i deyrnas uchod, wedi eich gwneuthur yn 'etifeddion i Dduw, ac yn gyd-etifeddion â Christ.'

"Yr wyf yn gobeithio nad anghofiwch byth i ymddarostwng eich hunain ger bron troedfainc trugaredd ddwyfol, ac i ymgynghori â thystiolaethau y gwirionedd dwyfol: yn y naill chwi gewch weled llwybr eich dyledswydd yn cael ei wneuthur yn eglur; yn y llall fe'ch diwellir â gras i gyflawni eich dyledswydd: yn y naill fe'ch goleuir, ac wrth y llall fe'ch cadarnheir; yn y naill fe'ch dysgir 'pa fodd y glanha llanc ei lwybr,' ac yn y llall Duw a ddywed wrthych, Digon i ti fy ngras i;' y mae y naill yn llusern i'ch goleuo, a'r llall yn ystordy i'ch diwallu.

O fy anwyl lanciau, clywch lais eich tad! Mae bywyd yn fyr, angeu yn sicr, y farn fydd ofnadwy, a thragywyddoldeb fydd yn hanfodiad diderfyn. Ni wna dim y tro yn fuan iawn i chwi a minau ond i adnabod yr unig wir Dduw a Iesu Grist, yr hwn a anfonodd efe; oblegid efe yn unig yw y bywyd tragywyddol. Gosodwch yr Arglwydd yn wastad ger eich bron, gan ddweud a gwneuthur pob peth fel yn ei bresennoldeb, a chredu eich bod yn awr, ac y byddwch bob amser, yn noeth ac yn agored i'w lygaid holl-weledig ef.

Ni chwanegaf ragor yn bresennol, gan ddymuno bendith yr Arglwydd ar y cynghorion hyn, y rhai a anfonir atoch gan un o'r tadau serchocaf ac anwylaf,

EBENEZER RICHARD.