Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gliniau a'r bronau. Gallasai gael ei symud trwy ddyrnod o'r parlys mud, heb i chwi gael yr un gair o’i genau; neu fod wedi colli pob sylw a synwyr yn hir cyn ymadael. Hefyd, ni wnaeth yr Arglwydd i chwi, frawd, yn y tro hwn, ond y peth a wnaeth â miloedd o'i anwyl bobl o'ch blaen. Felly gwelir am Abraham, Isaac, a Jacob, yn nghyd a lluaws ar ol eu dyddiau hwynt.

Hefyd, nid oedd datod y cwlwm priodasol ddim ond amgylchiad a goffawyd wrth ei wneuthur,—hyd oni's gwahano angeu' ydoedd iaith y cyfammod.

"Ond mae genych chwi, anwyl frawd, resymau ardderchocach yn eu natur, a chadarnach yn eu cyfansoddiad, y rhai yn ddiau ydynt yn gweini i'ch meddwl llwythog gysuron mwy sylweddol na dim sydd genyf fi, sef, fod eich anwyl gymhares a chwithau yn rhwym yn yr un cyfammod cadarn; wedi eich prynu â'r un anfeidrol werth, wedi eich galw i'r un berthynas sanctaidd, eich golchi yn yr un ffynnon, eich gwisgo â'r un cyfiawnder, eich harddu â'r un gras, ac y cewch yr un adgyfodiad gwell, cael gweled yr un wyneb, a mwynhau yr un Duw, heb dor, heb gymysg, a heb gwmwl byth.

Mae fy anwyl wraig yn uno gyda mi yn y cydgwyniad mwyaf teimladwy a serchiadol atoch chwi a'ch dau blentyn, gan ddymuno i chwi gredu fy mod, fy anwyl frawd yn yr efengyl,

Eich cyfaill diffuant,

{{c|EBENEZER RICHARD."

Yma y canlyn amryw bigion o wahanol lythyrau a ysgrifenodd atom yn ysbaid y flwyddyn 1828.