Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/126

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PEN. XI.

Afiechyd galarus y Parch. D. Charles—Llythyr Mr. R. at ei deulu ar yr achlysur—Llythyr at Mr. William Morris—
Un arall at ei Feibion—Ac arall at y Parch. David Williams a Mr. William Morris.

YN haf y flwyddyn 1828, dygwyddodd anhwyldeb galarus y Parch. David Charles, o Gaerfyrddin, yr hyn a barodd gymaint o ofid a thrymder i'w gyfeillion trwy Gymru, ac i neb yn fwy nac i wrthddrych y cofiant hwn, oblegid yr oedd Mr Charles yn un o'r cyfeillion mwyaf anwyl a mynwesol a feddai. Achosodd y newydd dristwch nid bychan i'w feddwl; ac, yn mhob llythyr a ysgrifenai atom, byddai yn gwneuthur yr holiadau manylaf yn ei gylch; a phan ymwelodd a Chaerfyrddin y tro cyntaf ar ol yr ergyd trwm, gorchfygwyd ef yn gwbl gan ei deimladau wrth weled sefyllfa ei gyfaill; ac, wrth drosglwyddo penderfyniad Cymdeithasiad y corph ar yr achlysur, ysgrifenodd y llythyr canlynol at deulu Mr. Charles.

Tregaron, Awst, 1828.

AT MR. DAVID CHARLES, IEU

ANWYL SYR,
Achosodd y newydd galarus am yr anhwyldeb trwm â pha un y mae eich tad parchedig wedi ei orddiwes, y teimladau mwyaf poenus a'r galar mwyaf llym yn mynwesau cannoedd o'i gyfeillion, yn mhob rhan o'r wlad; ond ni pharodd yn mynwes neb loesion