Y mae y llythyr canlynol yn esbonio ei hun:
AT MR. WILLIAM MORRIS, COED-CYMMER.
FY ANWYL GYFAILL,
Nis gallaf lai na chenfigenu wrthych, fel un yn meddiannu rhai rhinweddau gwerthfawr, y rhai yr wyf yn teimlo, a hyny gyda gofid, fy mod i yn fyr ac yn ddiffygiol iawn ynddynt-rhinweddau o gymeriad uchel yn yr Ysgrythyrau sanctaidd. Yr wyf yn credu eich bod yn perchenogi y cariad hwnw am ba un y mae'r apostol Paul yn llefaru mor uchel, pan y mae yn dweud ei fod yn hir-ymaros, yn gymwynasgar, na chythruddir, ac na feddwl ddrwg.' Ymddengys i mi y gallaf brofi hyn yn hawdd, oblegid yr ydych wedi ymaros yn hir iawn yn wir a mi, i adael eich llythyrau yn barhaus heb eu hateb, wythnos ar ol wythnos, a mis ar ol mis; ac, ar ol siomedigaethau mynych, yr ydych yn ysgrifenu drachefn; yn awr, mae hyn yn gymwynasgar iawn ynoch. Ni chythruddir chwi yn hawdd chwaith, onide, buasai fy esgeulusdod i o'ch gohebiaeth frawdol wedi peri hyny er ys llawer amser, ac, er fy mod wedi ymddwyn yn ddrwg iawn, eto nid y'ch yn meddwl drwg. Y mae eich caredigrwydd yn fy ngorchfygu yn lân―y mae eich calon hael yn parhau i ddychymygu haelioni. Yr holl esgusod sydd genyf i'w gynnyg am fy ymddygiad anfoneddigaidd tuag atoch, yw, nad oedd dim yn fwriadol yn y cwbl, a'i fod yn cyfodi oddiar ddeddf orthrymus angenrheidrwydd, gan fy mod y rhan fwyaf o'm hamser oddi cartref yn pregethu, a phan ddychwelwyf yr wyf yn gorfod myned at y gwaith o gyweirio fy rhwyd, ac yna allan i'r môr drachefn gyda'r llanw cyntaf; ac fel hyn yr wyf yn