Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/13

Gwirwyd y dudalen hon

flawniad pob dyledswydd, priodol i'w sefyllfa. "Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd."

Yn eu dull o ddwyn i fynu eu teulu, dangosent y gofal mwyaf i gynnefino meddyliau eu plant yn ieuainc a gwirioneddau pwysig yr efengyl-i fagu ynddynt barch diffuant at holl sefydliadau a moddion crefyddol, a thrwy hyfforddiadau tyner, ynghyd a gweddiau taerion a dibaid, i'w harwain yn foreu i ffordd cyfiawnder a thangnefedd, "fel pan yr heneiddient, na ymadawent a hi." Ac fel gwobr am eu hymdrechiadau llafurus a duwiol, cawsant yr hyfrydwch o weled eu plant yn dyfod yn brydlawn i adnabod Duw eu tadau. Fel engraifft o'r effeithiau dymunol hyn, gellir crybwyll yma yr hanesyn canlynol mewn perthynas i wrthddrych y cofiant hwn, yr hyn a gymerodd le yn amser ei febyd. Gellir ei rhoddi yn ngeiriau y gŵr parchedig[1] a'i coffaodd, ar ol ei farwolaeth: 'Clywais un yn adrodd ydoedd yn bresenol ar y pryd, iddo pan yn chwech mlwydd oed estyn ei law ar y Sabbath cymundeb, a derbyn y bara; yna ei fam a'i canfu, ac a'i rhwystrodd i dderbyn y cwpan, a phan aeth allan hi a'i ceryddodd, gan ddywedyd, Fy anwyl blentyn, pa'm y gwnaethost hyn? Yntau yn doddedig a atebodd, Pa'm y gwnaethoch chwi hyn? WEle cofio yr oeddwn i am angeu mâb Duw, ebe hi. Hyny oeddwn inau yn ei wneuthur, ebe y plentyn hawyddgar." Ychydig, o angenrheidrwydd, yw'r cofion sydd genym mewn perthynas i'w ddyddiau boreuaf. "Pan yn blentyn,” medd ei frawd, "yr oedd o dymher add

  1. Y Parch. William Morris, Cilgerran.