Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/143

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar dy enw.' Yn Zech. xii. 12, y dywedir, 'A'r wlad a alara, pob teulu wrtho ei hun.' O na bai y rhai sydd yn addoli yn fwy cydwybodol, yn fwy gwirioneddol, ac yn fwy sylweddol. Mae lluaws mawr a'u haddoliad teuluaidd yn ffurfiol, yn oer, yn ddifywyd, ac yn dywyll. Allor i'r Duw nid adwaenir yw nifer fawr o'u hallorau teuluaidd.

2. Addysg deuluaidd. Hyfforddus weision oedd gweision Abraham, h. y. rhai wedi eu hegwyddori mewn pob gwybodaeth fuddiol. Mae y tadau i faethu eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Fel y dylai tad gadw cynnaliaeth bara ar ei fwrdd, felly y dylai ei wefusau gadw gwybodaeth; ond och! fy mrodyr, pe nas dysgai llawer o blant ddim gwybodaeth grefyddol ond a glywant yn eu teuluoedd, byddent y mwyaf tywyll a phaganaidd mewn bod. Mae rhy fach o esbonio, cateceisio, a chyngori yn y teuluoedd goreu a feddwn. Erbyn hyn, mae yn rhaid fod y gwaethaf yn ddwfn iawn.

3. Llywodraeth deuluaidd: yn hyn y collodd Eli, ac fe allai Dafydd hefyd. Ac yn hyn mae lluaws mawr yn colli yn ein hoes ninau. Y maent yn addoli, ac y maent yn cyngori peth hefyd, o'r fath ag ydyw; ond y maent yn methu yn y llywodraeth. Rhaid i esgob fod yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, 1 Tim. iii. 4, 5. Ond rhaid gadael: ni feddaf amser na phapur i ymhelaethu, onite gwnaethwn gyda phleser.

Ydwyf, fy anwyl gyfeillion yn yr efengyl,

Yr eiddoch yn ddiffuant,

EBENEZER RICHARD

Wedi aros yn Llundain am ddau fis, dychwelodd drachefn i Gymru.