Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/160

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganlyniadau sobr i chwi, ond y maent yn fach mewn cymhariaeth â'r olaf.

I. Eich bwriad i roddi'r ysgol heibio. Mae ein Cyfarfod Misol ni yn debyg o edrych ar hyn gyda gradd o ofid a galar, gan eu bod er ys amryw flynyddau bellach yn medru cymhorth eglwysi gweiniaid, a defnyddio moddion i oleuo ardaloedd tywyll, trwy eich llafur chwi fel offeryn. Eto ni obeithiwn y cyfyd Duw ymwared o le arall; ac os yw yn ewyllysio i ni barhau y gorchwyl yn mlaen, y dengys ei Fawrhydi ryw berson addas at y gwaith, gan fod gweddill yr ysbryd ganddo; ac o bosibl na bydd cynifer o flynyddoedd yn eich hoes yn nghyd ag y gellwch edrych arnynt gyda mwy o dangnefedd, tawelwch, a hoffder, a'r rhai a dreuliasoch gyda ein hysgol rad ni, eto gall eich rhesymau fod yn ddigonol am ei rhoddi heibio.

II. Eich bwriad i briodi. Nid ydwyf yn gwybod am ddim a all fod yn wrthwyneb i hyn, canys anrhydeddus yw priodas yn mhawb,' ac nid da bod dyn ei hunan; am hyny dywedodd Duw, 'Gwnaf iddo ymgeledd gymhwys iddo.' Un o athrawiaethau cythreuliaid ydyw gwahardd priodi, ac nid oes neb yn gwneuthur hyny ond Anghrist; ïe, yr ydych yn rhydd i briodi y neb a fynoch, ond yn unig yn yr Arglwydd.

Cyfammod dwyfol ac anrhydeddus, yr hwn a wneir gan ddau berson o wahanol ryw, yw priodi, i garu a bywioliaethu gyda y naill y llall hyd onis gwahano angeu hwynt; ond cofiwch fod bywyd priodasol naill neu yn ddiflas, neu yn boenus, neu yn happus. Tuag at ei fod yn happus, rhaid cael y tri pheth canlynol:1. Gwir grefydd, a bod nesaf y gellir o'r un farn am grefydd. 2. Callder, neu gallineb. 3. Natur dda, a goddef eu gilydd mewn cariad. Dyma, yn fyr, rai o'r