Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/164

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glanhawr arian, Mal. iii. 3. Y mae efe yn bresennol yn holl gystuddiau ei bobl yn gwneuthur iachawdwriaeth iddynt. Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifont trosot: pan rodiech trwy y tân ni'th losgir, ac ni ennyn fflam arnat.'

'Drachefn, mai nid dydd ac nid nos' oedd hi arnoch. Duw a wnaeth amser adfyd ac amser gwynfyd; y naill ar gyfer y llall, er mwyn na chai dyn ddim ar ei ol ef.' Dyma gyd-dymheru cywrain a gofalus iawn. Yn awr, fy chwaer brofedigaethus, ni a gawn ganu am drugaredd a barn. Nid dydd i gyd, ac nid nos i gyd; nid yr oen i gyd, nid dail surion i gyd; nid pren yw'r cwbl, ac nid dyfroedd Mara yw'r cwbl y ddau yn nghyd. Nid y demtasiwn yw y cwbl, ond diangfa hefyd. Nid y swmbwl yn y cnawd yn unig yw y cwbl, ond digon i ti fy ngras i hefyd. Nid claddu priod hoff a thad tirion yw y cwbl, ond ei gladdu gartref, a chael ymddiddan âg ef, a'i ymgeleddu. Nid ei weled yn marw oedd y cwbl, ond ei weled yn marw mewn heddwch. Nid dattod yr undeb rhyngddo ef a chwi oedd y cwbl, ond ei undeb â Christ yn dyfod i'r golwg yn eglurach nag erioed. Nid gwlaw, lifeiriant, a gwyntoedd yn unig, ond ar y graig yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi.' Nid diwedd y gwr hwnw a welwyd yn unig, ond diwedd y gwr hwnw yw tangnefedd.' Hi a aeth yn hwyr, o ran i haul ei fywyd naturiol fachludo, ond bu goleuni yn yr hwyr. Nid ymadael a wnaeth eich priod, ond myn'd yn mlaen. Trwsiwn ninau ein lampau, fel y gallom heb betrus fod yn barod i fyned i mewn gyda'r priodfab i'r briodas, cyn cau y drws.

Ond, meddwch chwithau, er hyn i gyd yr wyf fi