Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/179

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod yn genedl anhawdd ei thrin. Bydded i chwi gyfranogi o'r ddoethineb a'ch dysgo pa fodd i lywodraethu eich hun. Rheol dda yw hono os gweithredir arni— clywed, a gweled, a bod yn fud, neu, fel y defnyddir hi yn iaith eich mam,

'Gwel, a chel, a chlyw,
Ti ga'i heddwch yn dy fyw;'

neu yn hytrach gwrandewch iaith berffaith ac awdurdodol yr ysbrydoliaeth ddwyfol ar y pwnc,- Pwy yw y gwr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau i weled daioni ? Cadw dy dafod rhag drwg, a'th wefusau rhag traethu twyll.' Ac nid yn unig doethincb, ond nerth hefyd i gyflawni dyledswyddau, i wrthsefyll temtasiynau, i ddyoddef erledigaethau, ac i ymgynnal tan drallodau. O bydded i chwi fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef yn y dyn oddimewn, a bydded i'r Arglwydd eich cefnogi trwy ddywedyd wrthych megis wrth Gibeon gynt, Dos yn dy rymusdra yma; oni ddanfonais i dydi?' a bydded i chwi gael ffafr yn ngolwg yr Arglwydd.

Ydwyf, fy anwyl Henry,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.

Yma y canlyn un llythyr yn ychwanegol oddiwrth y Parch. H. Howells at y Gymdeithasiad, wedi ei gyflwyno i ofal Mr. Richard.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

Trehil, Mawrth 27, 1834.

FY MHARCHEDIG FRODYR,
Yr ydwyf yn anturio i ddanfon hyn o linellau atoch un waith yn mhellach, i fynegu fod brawdgarwch