Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/218

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

asant Dregaron oddeutu saith o'r gloch yn y prydnawn. Er fod y daith hon yn agos i ddeg-ar-hugain o filldiroedd, daliodd yn siriol heb gysgu, ac ymddiddanai yr holl ffordd â Mr. Morgan. Ond rhywle ar y daith sylwodd, Y mae fy oes i yn mron terfynu. O nac ydyw, Mr. Richard bach, meddai Mr. M., ni a'ch cawn am flynyddau eto; nid wyf fi yn gweled pen neb yn dyfod i'r golwg i gymeryd eich lle.

Ar ol ei fynediad i'w dŷ, gofynodd Mrs. R. iddo os ydoedd yn sâl. Nac wyf, ebe yntau, ond fy mod yn teimlo yn llesg, a'r cwsg yn fy mlino, a thrwy hyny yn barnu bod yn well i fi ddychwelyd adref. Ar ol iddo gymeryd ychydig luniaeth, fel yr ydoedd ei ferch ieuangaf yn sefyll gerllaw iddo, dywedodd, Yr wyt yn ei orchfygu ef yn dragywydd, fel yr elo ymaith; a chan newidio ei wyneb ef, yr wyt yn ei ddanfon i'w ffordd.' Nid yw hyny ddim llawer o gamp, goelia' i.

Ar ol darllen dau lythyr oddiwrthym ni o Lundain, aeth i'w wely; a phan aeth ein mam i'r ystafell ar ei ol, yn mhen rhai oriau, yr oedd yn ymddangos yn cysgu yn esmwyth. Yn nghylch chwech o'r gloch boreu dranoeth, trwy lawer o lafur, llwyddodd ei wraig a'i ferch i'w ddeffro, i'r dyben o roddi iddo ryw foddion meddygol ag yr oedd ei fab hynaf wedi ei annog yn daer i'w cymeryd yn y llythyr a ddarllenasai y nos o'r blaen; ac wedi eu cymeryd, dywedodd wrth Mrs. Richard, Rho lymaid o ddw'r i fi i lyncu ar eu hol. Gofynodd hithau os mynai ychydig yn ychwaneg, atebodd yntau, Myna'; a byth mwy ni chlywyd un sill o'i enau anwyl. Pan gyfododd ein mam, gadawodd ef mewn cwsg trwm; ac wedi i'r teulu orphen eu boreufwyd, aeth ei ferch i'r ystafell i edrych os ydoedd