Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/228

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ganddo o ddyn, wedi dysgu iddo nas gallasai yn ddiogel wneuthur cyfaill mynwesol o bob cydymaith achlysurol a gyfarfyddai ag ef; ac yn enwedig y gweddai i ddyn cyhoeddus fod yn ofalus rhag agor ei feddwl yn rhy barod i bob dyhiryn eofn ag y byddai ysfa arno i ymlusgo i'w gydnabyddiaeth, i̇'r dyben o wneud adroddiad ymffrostgar drachefn o'i farnau a'i ddywediadau. Achosai hyn weithiau ymddangosiad o afrwydd-der ac anhynawsedd yn ei ymddygiad at ddyeithriaid, yn enwedig os byddent fel yn honni hawl i ryw beth mwy na'r moesgarwch cyffredinol a ymarferir rhwng dyeithriaid. Ond pan y byddai yn mhlith cyfeillion ag yr oedd ganddo gyflawn ymddiried ynddynt, ymollyngai i ymddygiadau rhydd a syml fel plentyn. Yr oedd ynddo lawer o'r digrifwch chwareugar hyny ag a ddangosir yn gyffredin gan y dynion o'r meddyliau cryfaf, pan y byddont yn ymollwng oddiwrth eu gorchwylion difrifol; ac ar rai achlysuron yr oedd hyn yn dyfod i'r golwg mewn modd hynod ddifyrus pan yn mhlith ei deulu ei hun. Ymddigrifai yn fawr yn nedwyddwch a llawenydd ei blant, a chyfranogai i'r eithaf yn mhob cellwair chwareugar a diniweid a gymerai le yn eu plith, gan ofalu bob amser i gefnogi y gwanaf a'r ieuangaf, ac, o byddai angenrheidrwydd, i'w gynnorthwyo hefyd i ennill y fuddugoliaeth.

Dylem nodi yn bendant y graddau uchel ydoedd wedi gyrhaedd mewn sancteiddrwydd personol. Yr oedd tymher gyffredin ei feddwl yn hynod o ysbrydol. Yr oedd yn amlwg fod myfyrdodau sanctaidd yn cartrefu yn ei feddwl, ac nid megis pererinion yn y tir, neu fel ymdeithydd, yn troi i letya dros noswaith; a mynych y clywid saeth-ymadroddion sobr yn murmur