Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/238

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAI O DDYWEDIADAU MR. RICHARD AR AMRYWIOL
DESTUNAU, AC AR WAHANOL ACHLYSURON.

Y MAE y sylwadau canlynol wedi eu casglu o wahanol gyrau, ac nid ydym ni wedi gwneuthur dim ond cysylltu y rhai a berthynent i'r un pwnc â'u gilydd. Cofion ydynt o'r hyn a gadwyd ar feddyliau amrywiol gyfeillion wedi clywed eu traddodi gan Mr. Richard. Ni byddai ef ei hun yn arfer ysgrifenu sylwadau o'r natur hyn, ac nid oedd un angenrheidrwydd iddo wneuthur felly, oblegid yr oeddynt bob amser yn ymddangos yn tarddu i fynu yn barod, megis o ffynnon ddiyspydd, pan y byddai gofyn am danynt. Galarus yw genym feddwl fod mor ychydig o honynt ar gael, canys diau genym, wrth gofio y cyflawnder o'r cyfryw sylwadau oedd ganddo ar bob achlysur, fod cannoedd o honynt wedi myned ar ddifancoll.

WRTH BREGETHWYR.

Yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol marwolaeth y Parchedigion Ebenezer Morris a David Evans, safai i fynu yn nghyfarfod yr eglwys mewn dagrau a dywedai, Rhaid i ni fyned yn mlaen fel arferol, ond anarferol iawn yw hi arnom ni heddyw, oblegid y mae peth hynod wedi ein cyfarfod—colli y ddau frawd enwocaf a feddem, a'u colli, nid wedi myned yn hen a methiedig, ond yn nghanol eu nerth a'u llafur. 'Nawr, y cyngor a roddaf i'm brodyr yn y weinidogaeth yw, sefwch yn