amser y bu efe yn trigo ac yn gweinyddu yn eu plith, ydoedd y tymhor mwyaf llwyddiannus a welsant yn hanes yr achos yn y lle hwnw. Ymroddodd ar unwaith i'r gorchwyl a gymerodd mewn llaw, gyda yr un zel a hunan-gyssegriad, i lafurio mewn amser ac allan o amser, ac a'i hynododd trwy ei holl fywyd.
Yn fuan wedi dechreu ei ymarferiadau cyhoeddus, galwyd ef a'i frawd (yr hwn oedd hefyd wedi cychwyn yn ngwaith y weinidogaeth yn ebrwydd ar ei ol ef) o flaen cyfarfod misol y sir, yn ol trefn arferol y corph crefyddol y perthynent iddo. Holwyd hwynt yn benaf gan yr enwog a'r parchedig Jones, o Langan, yr hwn yn ei ymddiddan cyhoeddus a hwy a ymddangosai yn dra llym a difrifol, ond y mae yn amlwg ei fod wedi ffurfio barn uchel a pharchus am danynt, oblegid yr oedd ei ymddygiad personol tuag atynt bob amser yn hynod hynaws a chefnogol; ac ar ol dyfod allan o'r gymdeithas neillduol, ar yr achlysur crybwylledig, dywedai wrth ryw ŵr dyeithr oedd yn bresenol, "Mae y ddau fachgen hyn yn pregethu fel dau angel."
Fel prawf o'r ysbryd gwyliadwriaeth a gweddi, ynghyd a'r hunan-eiddigedd manwl a arferai efe ar ddechreuad ei fywyd gweinidogaethol, y mae yn ddywenydd genym allu gosod ger bron ein darllenwyr y pigion canlynol o ddydd-lyfr tra helaeth a gadwai efe am ranau o'r blynyddoedd 1805 a 6. Nid yw yr hyn roddir yma ond cyfran fychan o hono, ond eto gobeithiwn ei fod yn ddigon i ddatguddio tymher gyffredinol meddwl yr ysgrifenydd yn y dyddiau hyny.
"Medi 24, 1805. Yr wyf yn hyderu y gallaf oddi ar brofiad alw'r Arglwydd yn Jehovah-Jireh, canys efe a ddarparodd yn rhyfedd i'w wâs gwael heddyw, ar ol ofni ei fod wedi fy rhoddi i fynu. Ehangodd arnaf