Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/255

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn yr amlwg.' Os collwn ni mewn gweddiau dirgel, colli wnawn ni yn mhob man. Ni wna dim y tro gyda chrefydd yn lle cymdeithas â Duw. Peth gwerthfawr yw bod yn gymeradwy gan ein brodyr, yn ddiddolur i'r achos, &c., ond os ydym am fod yn dduwiolion gwirioneddol a llewyrchus, rhaid i ni fyned yn ddyfnach, ddyfnach, i'r dwfr hwn, nes byddom yn gallu dweud gyda Ioan, Ein cymdeithas ni yn wir sydd gyda'r Tad, a chyda'i Fab ef, Iesu Grist.'

Byddwch ofalus rhag esgeuluso moddion gras, oblegid mae hyny yn bechod yn erbyn y Drindod, yn taflu sarhad ar gariad y Tad, gras y Mab, a chymdeithas yr Ysbryd Glan. Cofiwch mae pethau mawrion Duw yr ydych yn eu hesgeuluso, a'i osodiad pendant ef. Os ydym yn gwneuthur hyny yn wirfoddol, mae'n arwydd diammeuol o adfeiliad mewn crefydd bersonol. Mae hyn yn codi cymylau rhyngom a Duw, yn datod cariad rhyngom a'n brodyr, ac yn tori'r cyfammod sydd rhyngom a'r eglwys. Mae yn rhoddi mantais ddirfawr i'r gelyn trosom; a phe gofynid i'r diafol pa beth yw ei benaf amcan tuag at ddynion, a pha beth a ddymunai'n hoffaf ei weled, meddyliwn yr atebai, Cadw'r wlad yn mhell oddiwrth addoliad Duw, a defnyddio moddion gras; a dyma'r ffordd i dynu achos Duw i lawr, fel â cheibiau, ac i ddwyn yr ardaloedd yn ol i'r anialwch yr oeddynt ynddo haner can' mlynedd yn ol.

A oes dim arwyddion digon amlwg yn ein dyddiau ni, fod gwialen Duw ar esgeuluswyr moddion gras? A ydyw of ddim yn eu hesgeuluso hwythau? Paham y mae'r dyn yn cael ei adael cyhyd i ddihoeni mewn cystudd? Fe allai mai'r Arglwydd sydd yn adfesuro iddo yn ol ei fesur ei hun. Byddai yn arfer cymeryd