Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/263

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth, mewn cyfarfod eglwysig, Gochelwch i'r Arglwydd ein gadael. Gwell i ni bob peth na cholli presennoldeb ein Duw. Pe b'ai hyny yn cymeryd lle, efallai y bydd i'r addoldy yma fyned yn fagwyr, a'r ffwlbertiaid yn tyllu dan y corau; ac yn yr oes nesaf bydd rhyw un yn gofyn, Beth fu fan hyn? a rhyw hen wr, wedi ei adael yn weddill o'r oes grefyddol, yn ateb, Capel fu fan hyn, tŷ ein sancteiddrwydd, lle y moliannai ein tadau ni yr Arglwydd.'

Pan byddo dyn duwiol yn colli llewyrch wyneb yr Arglwydd, mae hyny yn profi fod rhywbeth wedi myned rhyngddo a'r Arglwydd; ac yna nid oes ond un o dair ffordd am ei adferiad-naill ai symud yr Arglwydd allan o'i drefn i gysuro ei bobl, neu symud y gwrthddrych sydd yn achosi'r cwmwl, neu symud y dyn; y cyntaf sydd anmhosibl, y diweddaf sydd beryglus, a'r llall yn unig sydd ddiogel i'r dyn, ac yn ogoniant i Dduw.

AM DDIRWEST.

Yr wyf yn ddiweddar wedi bod yn rhyfeddu dau beth yn ddibaid am danaf fy hun, sef pa fodd y meddyliais yfed erioed heb syched, a pha fodd y meddyliais erioed yfed y peth a allasai osod fy mhen tan draed fy ngheffyl. Yr wyf fi wedi bod yn gorfod gofyn pardwn y dwr am y dirmyg a fum yn daflu arno trwy'r blynyddoedd. Y mae genyf grediniaeth gadarn, y bydd i'r achos hwn fyned yn mlaen er gwaethaf pob gwrthwynebiad. Ofer i chwi feddwl ei attal. Yr un pryd y troir Teifi o bont Aberteifi i ffrydio tua Ffair Rhos, ag y troir achos mawr cymedroldeb yn ei ol cyn llifo dros yr holl wlad. Mae pobl —— yn bwriadu peidio dyfod allan i weled y llanw a'r llif, ond fe dyr