Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/38

Gwirwyd y dudalen hon

hyfryd, gofynodd dau neu dri o'r bechgyn bach y chwestiynau pwysig canlynol i mi :

"1. Yn mha beth y mae'r Ysbryd Glan yn cymhwyso atom ni yr iechawdwriaeth, yr hon a bwrcasodd Crist? "2. Pa beth ydyw effeithiau cyfiawnhad a sancteiddhad?

"3. Pa un a'i cyfiawnhad au sancteiddhad sydd gyntaf ?"

Ac fel hyn (megis y crybwyllwyd eisoes) y parhâodd yn ei ymdrechiadau gyda'r ysgol sabbothol dros holl ystod ei einioes, ac ni oddefai i unrhyw gyf leusdra tuag wneuthur lles i achos yr ysgol sabbothol fyned heibio heb wneuthur y defnydd goreu o hono. Dygwyddodd fod unwaith yn aros mewn tref, neu bentref bychan, yn Sir Fynwy, am ddiwrnod cyfan, a chan nad oedd ganddo ddim gwaith cyhoeddus i'w alw ato, holodd wr y ty lle yr arosai yn nghylch ansawdd yr ysgol sabbothol yno, ac wedi deall nad oedd un i'w chael, neu ei bod ar ddiffodd, dymunodd arno gydfyned ag ef i ymweled a theuluoedd y lle, a llwyddodd i gael gan bob teulu yn y fan i addaw dyfod yn gyson i'r ysgol sabbothol.

Cyfaill[1] iddo a nodai mewn llythyr a dderbyniasom oddi wrtho yn ddiweddar ar y pwnc hwn,—" Yr wyf yn meddwl mae yn New Inn y gwelais eich tad gyntaf. Byddai yn dyfod atom bob mis o Aberteifi. Nid oedd mo'i fath yn dyfod atom am annog, cyfarwyddo, a holi ysgolion sabbothol. Dangosai serchawgrwydd diffuant tu ag atom, a chyd-ddygai â ni yn ein tywyllwch a'n hanwybodaeth (oblegid nid oedd yr ysgol Sul yr amser hwnw ond braidd dechreu yn y wlad) gyda

  1. Y Parch. Thomas Evans, Caerfyrddin,