Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/42

Gwirwyd y dudalen hon

ynddo, ac mewn agwedd anaddas hynod i'w natur ardderchog. Y llall ydyw pan fyddom yn gweled mawredd y gwaith mewn gradd; ceisio ein digaloni yn ei wyneb, a'n llwfrhau, a'n cadw rhag gweled Duw yn blaid i ni ynddo, a'r addewidion gogoneddus sydd am gymhorth yn y gwaith. Ond yn wyneb y rhai'n, a lluoedd o demptasiynau ereill, fe eill Duw ein cynnal er ei ogoniant ei hun, a lles i'w eglwys. Am hyny, fy mrawd, ymnerthwn yn y gras sydd yn Nghrist Iesu, nid yn unig am gymhorth i gadw ein lle fel Cristionogion, ond hefyd i gadw ein lle fel gweinidogion y gair. Derbyniodd Iesu, yn mysg y rhoddion a dderbyniodd i ddynion cyndyn, roddion i waith y weinidogaeth. O am gael derbyn mwy o honynt yn wastadol! O am gael bod yn ei law, o ryw ddefnydd er ei glod, dros yr ychydig y byddom byw yma yn y byd. Gras a thangnefedd Duw yn Nghrist a fyddo gyda chwi. Amen.

Wyf eich brawd gwael,

a'ch cyd-was,

JOHN ELIAS.

"Da chwi, dewch i'r Gogledd mor fuan ag y .galloch."

Nis gwyddom am le mwy priodol na hwn i ddwyn i mewn y llythyr a dderbyniodd yn nechreu y flwyddyn ganlynol oddiwrth y Parch. Thomas Charles o'r Bala. Ysgrifenwyd ef gan yr awdwr yn Saesneg.

"ANWYL GYFAILL,

"Dyben y llythyr hwn yw ceisio genych y gymwynas