Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/43

Gwirwyd y dudalen hon

o gasglu yn mhlith y cyfeillion yn Sir Benfro gymaint ag a alloch o unrhyw bethau neillduol, mewn perthynas i fywyd a gweinidogaeth Mr. Howell Davies. Yr ydwyf ar ail-ddechreu, trwy ddymuniad arbenig y gymdeithasiad ddiweddar yn Dinbych, gyhoeddiad y Drysorfa, neu'r Eurgrawn Cymreig.

"Y mae bywgraffiad Mr. Griffith Jones, Llanddowror, wedi ei gyfansoddi ar gyfer y rhifyn cyntaf, ac yr wyf yn dymuno yn y rhifyn nesaf i ychwanegu ryw gofion o fywyd ei ysgolhaig, Mr. Howell Davies. Byddai dymunol, os bydd bosibl, cael gwybodaeth am ei dylwyth, ei enedigaeth, a'i ddygiad i fynu, a'i urddiad, gan nodi dyddiad pob un o honynt yn bennodol, os bydd hyny yn gyrhaeddadwy, yn nghyd a'r amser y dechreuodd weinyddu, pa lwyddiant a ganlynodd ei weinidogaeth, pa amser y bu farw, a pha fodd. Yr wyf fi yn gwybod rhyw gymaint am dano, ond y mae fy ngwybodaeth i yn rhy gyffredinol. Byddaf ddiolchgar iawn os byddwch chwi a'ch brawd mor fwyn ac ymofyn yn nghylch y pethau hyn, ac ysgrifenu yr hyn a gasgloch, heb ofalu am unrhyw drefn na manylrwydd cyfansoddiad, a'i ddanfon i mi pan orphenoch, yn mhen dau neu dri mis. Yr ydwyf wedi derbyn llythyr oddiwrth blant Blaenannerch. Gwelwch yn dda hysbysu iddynt, fy mod yn bwriadu rhoddi ateb i'w gofynion yn y Drysorfa. A hoffech chwi i ryw nifer o'r Eurgrawn gael eu danfon i chwi? Os felly, pa nifer, ac at bwy? A ddymunai cyfeillion Castell-Newydd, a rhanau isaf Sir Aberteifi, dderbyn rhyw gymaint? Yr wyf mewn cryn ammheuaeth pa nifer i argraffu, am nad wyf yn gwybod y galwad a fydd am danynt. Y maent i fod yn chwech-cheiniog y rhifyn, neu bedwar