Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

PEN. IV.

Ei briodas, a'i symudiad yn y canlyniad i breswylio yn Tregaron— Gwrthwynebiad cryf Captain Bowen a'i gyfeillion, yn ngodreu Sir Aberteifi, i hyny—Llythyr y Parch. Thomas Charles ar yr achos—Ei bennodi yn Ysgrifenydd Cyfarfod Misol y Sir—Genedigaeth ei fab hynaf—Ei eiddigedd a'i wroldeb o blaid y Ddysgyblaeth—Llythyr ar yr un achos at y Parch. J. Jones, Llanbedr.

YR ydym yn awr yn agoshau at amgylchiad arall o bwys mawr yn ei fywyd, sef ei briodas. Wrth ymdeithio drwy Sir Aberteifi daeth yn adnabyddus â Mary, unig ferch Mr. William Williams o Dregaron, ac wyres o ochr ei mam i David Evan Jenkins o Gysswch, un o'r cynghorwyr boreuaf yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd, a dyn hynod enwog mewn duwioldeb.

Ar ol cyfeillachu â'u gilydd am ysbaid o amser, priodwyd hwynt yn eglwys Tregaron ar y 1af o Dachwedd, 1809. Ar ol i'r ddefod fyned drosodd, pregethodd ei gyfaill Mr. Ebenezer Morris oddiwrth Gen. ii. 18. Oherwydd y cyfnewidiad hwn yn ei sefyllfa, daeth angenrheidrwydd arno i symud o'i drigfa bresennol i le preswylfod ei wraig, gan nad allai hi ymadael oddi wrth ei rhieni, y rhai oeddynt yn dechreu myned yn llesg ac oedranus. Pan wybu ei gyfeillion yn ngodreu y sir y penderfyniad hwn, dangosasant anfoddlonrwydd nid bychan tuag ato, ac ymosodasant â'u holl egni trwy bob moddion i'w ennill i gyfnewid