Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/52

Gwirwyd y dudalen hon

dysgwyl yn cael eu llithio i "gyd-redeg gyda hwynt i'r unrhyw ormod rhysedd. Yr oedd yr ysgelerder hwn wedi tynu sylw Cyfarfod Misol y Sir, er ys rhai blynyddau, ac amryw ymdrechiadau difrifol wedi cael eu gwneuthur i osod terfyn arno, o leiaf, yn mysg aelodau perhynol i'r corph. Ond mor ddwfn a gafaelgar yr ydoedd wedi ymwreiddio yn y wlad, fel yr oedd pob ymdrech a wnaethid wedi profi yn aflwyddiannus; ac nid rhyfedd yn wir, oblegid yr oedd yn cael ei amddiffyn a'i goleddu, hyd yn nod gan swyddogion yr eglwysi.

Fel canlyniad naturiol i hyn, yr oedd y ddysgyblaeth wedi ymlaesu i raddau gresynus, a "phob un a wnai yr hyn oedd union yn ei olwg ei hun."

Cyd-oddefodd Mr. Richard â'r diofryd hwn am ysbaid blwyddyn, "yn poeni ei enaid cyfiawn," "wrth weled y ffieidd-dra anghyfanneddol yn sefyll yn y lle sanctaidd," nes o'r diwedd, wedi ei ganfod yn beiddio dyfod i'r allor, ac yn derbyn cymeradwyaeth gyhoeddus gan un o'r blaenoriaid, enynodd y fath eiddigedd tanllyd yn ei fynwes, fel y penderfynodd ddyrchafu ei lais yn enw yr Arglwydd yn erbyn yr ysgymun-beth dyeithr. Cymerodd y cyfleu cyntaf i roddi ei fwriad mewn grym yn nghyfarfod yr eglwys yn Tregaron. Safodd i fynu yn wrol i ymofyn pwy oedd o dŷ yr Arglwydd, ac ni chafodd ond un blaenor i'w gefnogi; er hyny aeth yn mlaen gyda hwnw yn unig i lanhau y tŷ. Cafwyd deuddeg o'r aelodau yn euog o'r trosedd, a diarddelwyd hwynt oll yr un cyfarfod. Tranoeth i'r diwrnod hwnw, yr oedd ei gyhoeddiad yn Llangeitho. Aeth yno hefyd gyda'r un zel sanctaidd yn llosgi yn ei enaid dros ogoniant ei Feistr. Yr oedd dwy briodas wedi cymeryd lle yno ychydig cyn hyny yn yr