pharchus iawn ganddo, yr hwn a ysgrifenasai i ofyn ei gyfarwyddyd mewn amgylchiadau cymhwys yr un fath.
Y PARCH. JOHN JONES, LLANBEDR.
FRAWD ANWYL,
Derbyniais eich llythyr nos Lun, ac y mae fy meddwl yn ymdeimlo yn dra dwys a'r amgylchiad crybwylledig ynddo. Ond nid wyf mewn un modd yn barnu fy hun yn addas i eich cynghori, ond yn edrych arnaf fy hun yn hollawl annigonol. Ond fel un wedi bod mewn brwydr â'r arferiad ffieidd a soniasoch, am uwchlaw ugain mlynedd, mi gynnygaf i chwi y pethau canlynol:—(1.) Lledwch yr achos yn ddifrifol ger bron yr Arglwydd, a gelwch yn daer am ei gymhorth a'i gyfarwyddyd. (2.) Dylech gymeryd y cyfleusdra cyntaf i ymddyddan â'r hen frawd —— a dangos iddo mewn modd goleu y perygl aruthrol o iddo ef fod a llaw i gynnal y niweid a'r anwiredd hyny yn y wlad, ac y mae brodyr a thadau i ni sydd yn y nefoedd wedi bod â'u holl egni yn ceisio ei ymlid o'r wlad, a dymuno arno wneuthur ei oreu i droi ei fab hefyd, os nad yw yn rhy ddiweddar; ac os llwyddwch yn hyn yma, chwi a achubwch eich brawd a llawer ereill hefyd. (3.) Os na lwyddwch yn yr ymgais hwn, dylech ar y cyfle cyntaf a gaffoch rybuddio'r holl frodyr a'r chwiorydd, i ymgadw rhag myned yno rhag y pla, oblegid y mae yn fil mwy niweidiol na'r pla, mae yn dianrhydeddu ordinhad Duw, yn darostwng natur dyn, ie, yn damnio eneidiau filoedd. (4.) Y rhai a anufuddhant ar ol pob rhybuddio, a