PEN. V
Yr ymneilltuad cyntaf o rai o bregethwyr y corph i holl waith y weinidogaeth, yn nghyd a'r amgylchiadau cyffrous perthynol iddo—Genedigaeth ei ail fab—Diwygiad grymus 1812—Marwolaeth ei dad —Marwolaeth ei fam-yn-nghyfraith—Ei bennodi yn Ysgrifenydd y Cymdeithasiad— Cynnyg urddiad esgobawl iddo, &c.
Y MAE yr hanes yn ein harwain yn bresennol at gyfnewidiad pwysig a gymerodd le yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd, yr hwn yn wir a ellir ei ystyried fel yr amgylchiad a'u ffurfiodd gyntaf yn gorph gwahaniaethol ac anymddibynol o grefyddwyr. Gwel y darllenydd ein bod yn cyfeirio at ymneilltuad rhai o'u pregethwyr i weinyddu yn gyflawn holl ordinhadau yr efengyl yn eu mysg. Di-angenrhaid yw i ni goffau yma gyfodiad a chynnydd yr enwad hwn yn Nghymru. Gŵyr pawb iddo ddechreu ar amser pan ydoedd tywyllwch a chysgadrwydd dygn wedi ymdaenu dros y dywysogaeth, ac i amryw o weinidogion duwiol o'r Eglwys Sefydledig, wrth weled agwedd resynol y wlad, dori dros y terfynau culion o fewn pa rai y cyfyngwyd hwynt, yn ol rheolau dysgyblaethol y cyfansoddiad crefyddol i ba un y perthynent.
Yn ol gorchymyn pendant gwir Ben yr eglwys, aethant allan i'r heolydd a'r ystrydoedd, i'r prif-ffyrdd a'r caeau, gan wahodd cynnifer ag a gaffent i briodas Mab y Brenin. Fel canlyniad i hyn, dechreuodd achos crefyddol, o gynllun hollol newydd, gyfodi trwy