Gymru. Ymddangosodd yn fuan "o blith y bobl" amryw bregethwyr nerthol a duwiol, y rhai a ddaethant allan "yn blaid i'r Arglwydd yn erbyn y cadarn." Adeiladwyd llawer o addoldai i gynnulleidfaoedd y bobl hyn yn ngwahanol ranau o'r wlad, lle y byddai y pregethwyr rhag-grybwylledig yn cyhoeddi yr efengyl i dorfaoedd mawrion, "a'r Arglwydd hefyd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras.
Ond am hir dymhor gweinyddid yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd i'r lluoedd hyn, yn unig gan yr ychydig offeiriaid at ba rai y cyfeiriwyd eisoes. Ond fel yr oedd y gwaith yn ymledaenu, a'r cynnulleidfaoedd yn cynnyddu yn gyflym drwy yr holl wlad, yr oedd gweinyddiad y sacramentau hyn o angenrheidrwydd yn anaml ac yn annghyson iawn. Trwy hyn, daeth yn raddol argyhoeddiad cryf a chyffredinol ar feddyliau y werin, fod yn ofynol gwneuthur rhyw gyfnewidiad i gyfarfod y diffyg hwn. Byddai raid iddynt yn fynych fod yn gwbl amddifaid o'r rhagorfreintiau gwerthfawr hyn, neu eu derbyn o ddwylaw dynion nas gallent gyfrif a barnu, yn ol barn dyneraf cariad, eu bod yn weinidogion cymhwys y Testament Newydd. Gofynent yn naturiol, pa reswm a allai fod i'w hattal rhag cyflwyno y gorchwyl hwn, i rai o'r dynion hyny a fuont yn offerynol i argyhoeddi cannoedd o honynt, a thrwy weinidogaeth pa rai yr oeddynt yn derbyn maeth ysbrydol i'w heneidiau. Y mae'n wir eu bod yn gwybod nad oedd y gwŷr hyn wedi derbyn eu hawdurdod i'r gwaith "o ddynion, na thrwy ddyn," ond i'w meddyliau syml a dirodres hwy, yr oeddynt yn barnu fod Duw ei hun wedi gosod "sel apostoliaeth" arnynt, a bod ganddynt hawl i'w cyfarch hwy o leiaf yn ngeiriau yr Apostol, "Ai rhaid i ni