Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/61

Gwirwyd y dudalen hon

â hwynt, un ar ol y llall, ac yn derbyn yn barhaus yr un ateb, llefodd allan o'r diwedd mewn syndod, "Garw gymaint o honoch chwi a saethodd e' â'r un ergyd." Yn wir, hysbyswyd i ni yn ddiweddar, gan wr parchedig ag ydoedd yn byw yn Llangeitho y pryd hwn, ei fod ef yn sicr i gannoedd rai gael eu derbyn i'r eglwys yno, yn nghyd a'r eglwysi cymmydogaethol, y rhai a dystient mai wrth wrando ei bregeth ef, y boreu Sabbath hwn, yr argyhoeddwyd hwy gyntaf o'u sefyllfa beryglus wrth natur.

Ar y 7fed o Ragfyr, yn y flwyddyn hon (1812,) bu farw ei dad, yn hen a llawn o ddyddiau, a galarwyd am dano yn fawr gan ei wraig, a'i blant, a chylch helaeth o gyfeillion. Wrth ddychwelyd o'i daith Sabbothol, yn ngodreu Sir Benfro, syrthiodd y ceffyl tano, a thorodd ei glun, yr hyn yn mhen ychydig ddyddiau a achlysurodd ei farwolaeth. Yn ngwanwyn y flwyddyn ganlynol (Ebrill 10, 1813,) bu farw ei fam-yn-nghyfraith, Mrs. Williams, yn 68 oed, yr hon oedd wraig dduwiol, a hynod am ei gwybodaeth o'r Ysgrythyrau. Bu yn aelod eglwysig am 54 o flynyddau.

Yn y flwyddyn hon (1813) pennodwyd ef yn Ysgrifenydd y Gymdeithasiad (Association) yn y Deheudir, yn ol cynghor y Parch. Mr. Charles, o'r Bala. Diraid yw i ni hysbysu i'r sawl a fuont dystion am y medrusrwydd a'r ffyddlondeb a pha rai y cyflawnodd efe y swydd hon hyd ddydd ei farwolaeth. Yn un o'r pregethau angladdol, a draddodwyd ar ol ei farwolaeth, dywedir gan y llefarwr parchedig-" Ond fel Ysgrifenydd y Cymdeithasiad, yr ydoedd heb ei fath. Yr ydoedd gan Dafydd frenin Jehosaphat yn gofiadur, a Sadoc yn ysgrifenydd; ond mi feddyliwn nad oeddynt ill dau yn nghyd ddim cymaint a'n