Vicar (Evans, o Lanbadarn-fawr) wedi bod yn ymddiddan yn ei gylch, y dydd o'r blaen, ac wedi dyfod i'r penderfyniad o roddi iddo y cynnyg o gael ei ordeinio i bersoniaeth eglwysig, lle y derbyniai fywioliaeth lawer mwy esmwyth a chyflawn nas gallasai obeithio ei mwynhau yn ei sefyllfa bresennol, a'i fod ef (Mr. Jones) wedi gwystlo ei air i'w droi i gydsyniad â'r peth. Atebodd yntau yn gadarn a dibetrus, "Y mae y peth yn anmhosibl, syr." Synodd y gwr boneddig yn ddirfawr, a gofynodd, "Paham?" Dywedodd yntau, "Y byddai rhoddi caniatâd i'r cynnyg hwn, yn gyntaf, yn weithred gwbl groes i'w gydwybod, oblegid ei fod o egwyddor yn ymneillduo oddiwrth yr Eglwys Sefydledig. Yn ail, ei fod yn barnu y gallai fod o fwy defnyddioldeb gyda'r gwaith y man yr oedd. Ac yn drydydd, fod cymaint o undeb ac anwyldeb rhyngddo ef a'i frodyr, ag a wnelai y rhwygiad yn annyoddefol i'w deimladau." Nis gallai y gwr boneddig feio mewn un modd ar y rhesymau hyn, ond dywedodd, â gwedd anfoddlon, ei fod yn ei ystyried yn ffol iawn ar ei les ei hun, i wrthod y fath gyfleu. Fel hyn y parhaodd barn Mr. Richard drwy ei holl fywyd. Y mae yn gof genym pan yn ei gyfeillach ryw dro, i enw gweinidog oedd wedi ymadael a'i frodyr crefyddol a myned drosodd i'r Sefydliad, gael ei grybwyll yn ddamweiniol. Sylwodd rhyw un oedd yn yr ystafell, "O'm rhan i, yr wy'n meddwl iddo wneud yn birion, oblegid y mae yn cael bywioliaeth llawer mwy cysurus, a'r un cyfleusdra i bregethu yr efengyl." Nid mynych y gwelsom ef yn edrych yn fwy gwgus na 'phan yr atebodd i'r sylw hwn mewn llais llym ac anfoddlon, "O na, na, os nad oes genym ryw faint o brinciple yn y pethau hyn, nid ydym werth dim!"