PEN. VI.
Ei ymdrechiadau i ledaenu gwybodaeth yn y wlad am y Cymdeithasau crefyddol—Llythyr at gyfeillion ar farwolaeth plentyn—Llythyr at Gymdeithasiad Dinbych—Un arall at Mrs. Margaret Thomas.
YR ydym yn awr wedi agoshau at y flwyddyn 1814. Yn nghylch y pryd hwn ymddengys iddo gyssegru llawer o'i amser a'i lafur i ddwyn ger bron y wlad yn gyffredinol achos y Cymdeithasau crefyddol mawrion, a sefydlasid yn ddiweddar yn y deyrnas hon, sef y Beibl Gymdeithas a'r Gymdeithas Genhadol. Cafodd fod anwybodaeth mawr yn mhlith ei gydwladwyr yn y cymmydogaethau hyny, am natur ac amcanion goruchel y sefydliadau hyn, a'r angenrheidrwydd dirfawr oedd am danynt. Ymroddodd gyda'i zel a'i ddiwyd-· rwydd arferol i'r gwaith hwn. Casglai yn nghyd o bob parth hanesion ac hysbysiadau i'w gydwladwyr uniaith, i osod ger bron y gwahanol gynnulleidfaoedd, yn yr areithiau a'r cyfarchiadau nerthol a hyawdl a wnai ar amser y casgliadau blynyddol at y dybenion hyn. Y mae yn debyg na feiir arnom, os dywedwn iddo wneuthur mwy, trwy y moddion hyn, at gynhyrfu meddwl y rhan hon o'r wlad o leiaf, gyda'r gorchwylion hyn, na nemawr un arall.
Mewn perthynas i'r blynyddau canlynol, nid oes genym ddim neillduol i'w adrodd am dano, ond fod ei lafur cyson a diflin gyda phob rhan o achos yr efengyl,