Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/65

Gwirwyd y dudalen hon

yn parhau ac yn cynnyddu yn feunyddiol. Teithiai lawer trwy bob rhan o Gymru, y Gogledd yn gystal a'r Deheudir, ac ennillai barch a chymeradwyaeth iddo ei hun yn mhob man; nid yn unig oherwydd ei ddawn a'i ddefnyddioldeb yn ei wahanol swyddau, ond hefyd trwy burdeb difrycheulyd ei fywyd, yn nghyd a hynawsedd a boneddigeiddrwydd ei ymddygiadau.

Diau y bydd yn dda gan lawer, yn enwedig rhai mewn cyffelyb amgylchiadau, i weled y llythyr canlynol, a anfonodd yn y flwyddyn 1816 at ei gyfeillion Mr. a Mrs. Davies, Carnachen-wen, Sir Benfro, ar farwolaeth eu hunig blentyn. Ei gyfieithu yr ydym yn llythyrenol o'r iaith Saesoneg, yn mha un yr ysgrifenwyd ef.

Medi 3ydd, 1816.

FY ANWYL A'M HYBARCH GYFEILLION,

Teimlais yn fynych awydd i ysgrifenu ychydig linellau atoch, o dan eich trallod presennol, eto yr wyf yn gobeithio fy mod yn deimladwy o fy annheilyngdod a'm hollol anaddasrwydd at orchwyl mor anhawdd a gweinyddu cysur effeithiol i eneidiau sydd yn ochneidio dan ofidiau a thrallodau allanol, ac yn cael eu hysgwyd ar donau siomedigaethau y byd hwn. Yn wir, gwaith yw hwn a berthyn i'r Ysbryd dwyfol ei hun: Efe yn unig eill orchymyn tawelwch i enaid tymhestlog: Efe eill lefaru tangnefedd ac esmwythder yn nghanol y dyryswch mwyaf, yr hyn a wyddoch yn dda. Pa fodd bynag, dymunwn gydymdeimlo yn dirion â chwi, gan gofio fy mod inau hefyd yn y corph, yn ddarostyngedig i'r un profedigaethau, ac i'ch cynnorthwyo hyd ag y gallaf, i ddwyn eich baich gyda ffydd, amynedd, ac ymostyngiad i ewyllys Duw.