Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/68

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weithiau nid yw hyny ond un cam, ie, efallai ddim ond y gwahaniaeth o un anadl. Mewn gronyn bychan, bychan iawn, cawn ein hunain mewn syndod hyfryd, wrth eu gweled drachefn, a'u mwynhau yn llawer perffeithiach, a byth, byth heb deimlo mwyach arteithiau ysgariad oddiwrth ein gilydd. Fel hyn y cysurai Dafydd ei hun, 2 Sam. xii. 22. Nid ydyw eich hanwyl William ond wedi cychwyn ryw faint yn gynt, ac wedi myned ychydig yn mlaen.

"Nid oes un Cristion gwirioneddol heb groes o ryw fath neu gilydd, oddifewn neu oddiallan; priodol gan hyny y gallai'r prydydd ddywedyd,

Ai neb ond Simon garia'r groes,
A'r lleill i gyd yn rhydd?
I bawb mae croes, yn mhob rhyw oes,
A chroes i tithau sydd.'

Ond, O gystuddiau hyfryd sydd yn ein diddyfnu oddiwrth y byd truenus hwn, sydd yn foddion i farweiddio ein llygredigaethau, a'n dysgu i fyw yn fwy cyson trwy ffydd ar Iesu Grist, ac i sefydlu ein holl obaith a'n dysgwyliadau ar fyd arall, a gwell.

"Y mae cystuddiau sancteiddiedig i'w dewis fil o weithiau yn hytrach na llwyddiant ansancteiddiedig. Y mae y trallodau trymaf tu yma i uffern yn llai, lawer llai, nac y mae ein hanwireddau yn haeddu. O ras difesur! gallasai fod yn ei law yn lle gwialen geryddol Tad cymmodlawn, gleddyf tanllyd y Barnwr digofus; ac yn y nefoedd, fy anwyl gyfeillion, y bydd cof am fustl a wermod y gofidiau a gyfarfuoch yma, yn tueddu i felysu archwaeth y mwyniant nefol, oblegid pa fwyaf caled fyddo yr ymdrech, mwyaf gogoneddus fydd y fuddugoliaeth; pa fwyaf peryglus fyddo'r fordaith, mwyaf croesawus fydd y porthladd; pa trymaf