y byddo'r groes, disgleiriaf fydd y goron; gan hyny, na fydded i galedi eich taith beri i chwi anghofio, eithr yn hytrach i hiraethu mwy am eich cartref. Fel hyn yr wyf yn anfon y fasgedaid fychan hon o loffion, fel arwydd o'm cydymdeimlad a'm parch diffuant, gan wybod na ddiystyrwch hwynt, er eu bod yn dyfod oddiwrth yr annheilyngaf o'ch cyfeillion,
Y mae y llythyr canlynol yn esbonio ei hun:
"Y Brodyr yn gynnulledig yn Nghyfarfod Misol Sir Aberteifi, at y Brodyr yn gynnulledig yn Nghymdeithasiad Dinbych, yn anfon annerch,—Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddiwrth Ben yr Eglwys, a fyddo yn ehelaeth yn eich mysg.
"ANWYL A PHARCHEDIG FRODYR,
Yr ydym yn awyddu cydnabod ar bob achlysur yr undeb cadarn a diwahan sydd wedi parhau er ys cymaint o flynyddoedd rhyngom ni yn y Deheubarth a'n hanwyl frodyr yn Ngogledd Cymru; a chan ein bod yn teimlo mawr bryder rhag iddo mewn un modd wanhau na llaesu, yr ydym mewn gwir ofid pan fyddo neb o'n Cymdeithasiadau yn myned heibio heb rai o honoch chwi ynddynt i fod yn gymhorth i ni yn y gwaith. Gyda golwg ar hyn, cytunasom o unfryd i anfon yr ychydig linellau hyn i'ch Cymdeithasiad, gan attolwg arnoch, fod i nifer fawr o honoch ddyfod trosodd i'n cymdeithasiad flynyddol, sydd i fod yn Aberystwyth, y 24 a'r 25 o Mawrth nesaf. Ni all fod yn anhysbys i lawer o honoch, mae hon ydyw y luosocaf a