feddwn yn y Deheubarth, a bod tywalltiadau mawr, anghyffredinol, a rhyfeddol o'r Ysbryd Glan wedi bod ynddi lawer blwyddyn, a'i bod hefyd y nesaf a'r fwyaf cyfleus i Ogledd Cymru yn ein holl siroedd.
Anwyl frodyr, nid ydym ond dwy chwaer yn yr holl deyrnas; a phan fyddo rhyw ddiffyg ar y naill, ni fedd un lle ar y ddaear i droi am gymhorth ond at y llall. Y mae llaweroedd yn Lloegr a Chymru yn edrych ar ein hundeb gyda llygaid cenfigenus, ond bydded i hyny ennyn ein zel yn fwy am ei gadw yn ddigoll a difwlch. Byddai yr oerni lleiaf rhyngom yn achos o ahâ yn ngwersyll ein gelynion, ac yn wendid digyffelyb yn ein gwersyll ninau; gan hyny, yr ydym yn taer ddymuno arnoch ein gwrando y waith hon, gan addaw, os cawn brawf o'ch ffyddlondeb y tro presennol, pa beth bynag a ofynoch genym, ac a fyddo yn bosibl i ni ei gyflawni, ni a'i gwnawn.
"Arwyddwyd, dros y Brodyr, genyf fi,
"EBENEZER RICHARD,
"Ysgrifenydd Cymdeithasiad y Dehau."
Yn y mis canlynol i ddyddiad y llythyr uchod, anfonodd un arall at wraig dduwiol yn eglwys Penmorfa, (yr hon ar y pryd oedd yn dyoddef rhyw adfyd trwm,) rhanau o ba un a roddir yma.
AT MRS. MARGARET THOMAS, FFYNNON-BERW.
"CHWAER ANWYL,
Y mae yn dra gofidus i fy meddwl hyd y dydd heddyw na allaswn gael cyfleusdra i'ch gweled pan yr oeddwn yn eich cymmydogaeth, ond fe'm lluddiwyd gan amgylchiadau anocheladwy. Nid wyf yn cofio fy mod erioed o'r blaen yn Penmorfa na byddwn yn eich